Prifysgol Caerdydd (partner)
Sefydliad
Cyswllt Allweddol
Yr Athro Shantini Paranjothy a Dr Lisa Hurt
Thema’r Ymchwil
Y Blynyddoedd Cynnar
Ariennir Gan
Mae sefydlu’r garfan a dadansoddi amlygrwydd a chanlyniadau beichiogrwydd niweidiol yn cael ei ariannu gan grant prosiect Partneriaeth Ymchwil Iechyd y Cyngor Ymchwil Meddygol/Llywodraeth Cymru. Mae dadansoddi’r canlyniadau arennol yn cael ei ariannu gan grant prosiect Ymchwil NISCHR er Budd Cleifion
Hyd y Prosiect
Yn parhau

Nod y Prosiect
Mae gwelliannau mewn delweddu uwchsain wedi arwain at amlygu marcwyr cynnil anstrwythurol yn ystod y sgan anomaleddau ffetws 18-20 wythnos, fel coluddyn ecogenig, fentricwlomegali ymenyddol ysgafn, lledu pelficalyceal arennol, a nuchal mwy trwchus. Amcangyfrifir fod y marcwyr hyn yn ymddangos mewn 1%-4% o bob beichiogrwydd. Mae eu harwyddocâd clinigol, ar gyfer canlyniadau beichiogrwydd neu farwolaethau yn ystod plentyndod, yn anhysbys i raddau helaeth. Amcanion yr astudiaeth hon yw:
- Amcangyfrif amlygrwydd marcwyr unigol ar y sgan anomaledd 18 i 20 wythnos mewn poblogaeth na ddewiswyd o fenywod beichiog sy’n derbyn gofal cynenedigol arferol yng Nghymru;
- Asesu amrywioldeb rhwng ac o fewn sonograffwyr wrth ganfod marcwyr;
- Ymchwilio i gysylltiadau rhwng presenoldeb marcwyr a chanlyniadau niweidiol yn ystod beichiogrwydd (annormaledd yn y cromosomau, marwenedigaeth, geni cyn amser a bach am ei oedran);
- Sefydlu carfan o blant er mwyn ymchwilio i gysylltiadau rhwng marcwyr penodol a chanlyniadau iechyd yn y tymor hwy yn ystod plentyndod.
Trosolwg o’r Prosiect
Dyma astudiaeth garfan sy’n seiliedig ar y boblogaeth sydd wedi’i ymgorffori o fewn y gwasanaethau cynenedigol arferol a gynigir i fenywod beichiog gan GIG Cymru. Roedd pob menyw feichiog oedd yn derbyn gofal cynenedigol gan chwech o’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru a gafodd sgan uwchsain 18 i 20 wythnos mewn Ymddiriedolaethau GIG Cymru rhwng mis Gorffennaf 2008 a mis Mawrth 2011 yn gymwys i’w cynnwys. Rhoddodd 30,000 o fenywod eu cydsyniad i gymryd rhan, ac roedd data o sganiau anomaledd 22,045 ohonynt ar gael ar gyfer yr astudiaeth.
Mae’r data o gam cyntaf yr astudiaeth wedi cael ei ddadansoddi a’i gyhoeddi. Yma, canfu fod amlygrwydd y marcwyr yn amrywio o 43.7 ym mhob 1000 beichiogrwydd unigol ar gyfer ffocws ecogenig cardiaidd [95% cyfwng hyder (CH): 38.8, 51.1] i 0.6 ar gyfer fentricwlomegali ysgafn i gymedrol (95% CH: 0.3, 1.0). Roedd coluddyn ecogenig ar wahân yn gysylltiedig â risg uwch o anomaleddau cynhenid [cymhareb risg (CR) 4.54, 95% CH: 2.12, 9.73] a geni cyn amser (CR 2.30, 95% CH: 1.08, 4.90). Roedd lledu pelficalyceal ar wahân yn gysylltiedig â risg uwch o anomaleddau cynhenid (CR 3.82, 95% CH: 2.16, 6.77). Roedd mwy nag un marciwr yn gysylltiedig â risg uwch o anomaleddau cynhenid (CR 5.00, 95% CH: 1.35, 18.40) a geni cyn amser (CR 3.38, 95% CH 1.20, 9.53).
Yn ail gam yr astudiaeth, mae data’r sganiau yn cael ei gysylltu â chofnodion gofal iechyd arferol er mwyn archwilio a yw plant sydd â marcwyr yn mynd i’r ysbyty neu’n cael archwiliadau a llawdriniaethau’n fwy aml yn ystod pum mlynedd gyntaf eu bywydau na phlant sydd heb farcwyr. Mae dadansoddiad o dderbyniadau ysbyty arennol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac rydym yn chwilio am gyllid ar hyn o bryd er mwyn archwilio marcwyr cardiaidd.