Hannah Littlecott, Graham Moore, Simon Murphy – Prifysgol Caerdydd; Laurence Moore – Prifysgol Glasgow; Ronan Lyons – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Er bod ymchwil yn bodoli sy’n sefydlu’r cysylltiad rhwng bwyta brecwast a’r effeithiau uniongyrchol ar wella canolbwyntio a’r cof, ychydig a wnaed i archwilio’r cysylltiadau rhwng brecwast a chyflawniad academaidd tymor hwy. Astudiodd grŵp o ymchwilwyr o Gaerdydd, Abertawe a Glasgow bwysigrwydd brecwast i gyrhaeddiad academaidd tymor hwy.

Yr Ymchwil
Cymerodd dros 4000 o blant ysgol gynradd, rhwng 9 ac 11 oed, yng Nghymru ran yn yr astudiaeth – sef archwilio’r cysylltiad rhwng bwyta brecwast a’u perfformiad academaidd yn y profion cyfnod allweddol 2.
Gofynnwyd i’r plant gofnodi’r hyn yr oedden nhw’n ei fwyta bob dydd, popeth o frecwast a byrbrydau i ffrwythau a llysiau. Yna, cofnodwyd data dienw yn y gronfa ddata SAIL. Mae’r gronfa ddata SAIL, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn dileu enwau pawb yn yr astudiaeth (i ddiogelu eu preifatrwydd) ac yn caniatáu i’r wybodaeth gael ei hastudio gan ymchwilwyr.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ymagwedd ddeublyg at brofi’r cysylltiad rhwng brecwast a chanlyniadau yn yr ysgol.
- Yn gyntaf, gwnaethant ymgysylltu â’r plant gan brofi eu hadweithiau gwybyddol mwy uniongyrchol trwy ofyn iddynt gofio popeth yr oeddent wedi’i fwyta a’i yfed y diwrnod blaenorol. Awgrymodd hyn rôl brecwast yng ngallu plant i adalw gwybodaeth ar unwaith.
- Yn ddiweddarach, cysylltwyd y data â pherfformiad y plant dan sylw yn y profion Cyfnod Allweddol 2, gan ganiatáu i’r ymchwilwyr wneud cysylltiadau rhwng brecwast a pherfformiad mewn arholiadau.
Y Canlyniadau
Canfu’r astudiaeth fod brecwast nid yn unig yn arwain at fuddion uniongyrchol, fel a welwyd yn y profion galw i gof y diwrnod nesaf, ond bod cydberthynas gadarnhaol rhwng bwyta brecwast iachus a pherfformiad yn y profion Cyfnod Allweddol 2 mwy trwyadl ac academaidd.
Fodd bynnag, ni phrofwyd bod brecwast iachus yn ateb i bopeth ac, er y dangoswyd ei fod yn gwella perfformiad academaidd cyffredinol, ni chanfu’r astudiaeth lawer o dystiolaeth fod bwyta brecwast iachus yn helpu i leihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli mewn canlyniadau addysgol.
Gellir ystyried yr astudiaeth yn gam cadarnhaol tuag at ymagwedd fwy cydgysylltiedig at addysg ac iechyd sy’n defnyddio ymchwil gyfredol ym mhob maes perthnasol i gefnogi a meithrin y plentyn cyfan: yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn gorfforol.
Yr Effaith
Un o ganfyddiadau allweddol yr astudiaeth, a neges bwysig i rieni, gofalwyr ac ysgolion, yw bod ansawdd y bwyd yr un mor bwysig â’r ffaith bod brecwast yn cael ei fwyta. O ran y plant hynny a oedd yn bwyta eitemau brecwast afiach, ni welwyd cysylltiad rhwng yr eitemau a fwytawyd a pherfformiad addysgol. Mae hyn yn awgrymu bod angen i ni nid yn unig annog ein plant i fwyta brecwast, ond eu helpu trwy roi arweiniad, cynnig a chymorth i wneud y dewisiadau iawn.
Un ffordd y gallem wneud hyn yw trwy gynnig amrywiaeth o fwydydd sy’n rhyddhau egni’n araf. Mae tystiolaeth yn dangos bod y bwydydd hyn, sy’n is ar y mynegai glycemig, yn rhyddhau egni’n araf ac yn raddol drwy gydol y dydd, a allai gael effaith gadarnhaol ar weithrediad gwybyddol myfyrwyr. Gall annog cyfnewidiadau rhwydd fel tost grawn cyflawn yn lle bara gwyn, neu uwd yn lle grawnfwyd llawn siwgr, helpu pobl ifanc i sicrhau bod eu boreau a’u bywydau’n dechrau’n dda.
Yn bwysig, gallai’r astudiaeth hon fod yn allweddol wrth helpu i gysylltu gwella iechyd â busnes craidd ysgolion, a dadlau dros weithredu ymyriadau cyffredinol yn hytrach na rhai wedi’u targedu.