TROSOLWG O’R PROSIECT
Bydd yr astudiaeth hon yn gwerthuso pa mor effeithiol yw addasiadau yn y cartref, o ran atal derbyniadau i’r ysbyty oherwydd cwympiadau ymysg pobl hŷn a gwella prydlondeb rhyddhau o’r ysbyty.
Bydd ein canlyniadau’n darparu tystiolaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn llywio polisïau sy’n ceisio hybu heneiddio’n iach trwy ofal iechyd darbodus ac atal cwympo.
Bydd pawb dros 60 oed sy’n byw yng Nghymru yn cael eu cynnwys yn yr astudiaeth, sy’n defnyddio data cyswllt dienw o Fanc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL).
Byddwn yn defnyddio cronfa ddata genedlaethol o addasiadau yn y cartref a weithredir gan y sefydliad elusennol Gofal a Thrwsio Cymru rhwng 2009 a 2017 er mwyn diffinio carfan ymyrraeth. Byddwn yn defnyddio’r Mynegai Eiddilwch electronig er mwyn dynodi lefelau unigol o eiddilwch (ffit, ysgafn, cymedrol neu ddifrifol) a’u defnyddio i greu grŵp cymharu (nad yw’n ymwneud â Gofal a Thrwsio) o bobl nad ydynt wedi derbyn ymyriad gan Ofal a Thrwsio.
Bydd y canlyniadau sylfaenol yn niferoedd chwarterol o dderbyniadau brys i’r ysbyty yn sgil syrthio gartref, ac am ba mor hir mae’n aros oherwydd hynny. Bydd y canlyniadau eilaidd yn cynnwys yr amser at symud i gartref gofal ar ôl syrthio a’r costau ariannol dangosol ar gyfer gofalu am bobl sydd wedi syrthio.

