Sefydliad
Prifysgol Abertawe
Cyswllt Allweddol
Sinead Brophy
E-bost
Thema’r Ymchwil
Iechyd, Lles ac Ysgolion Cynradd
Ariannwyd Gan
Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
Duration of Project
Parhaus


Nod y Prosiect
Gwella iechyd, lles ac addysg disgyblion ysgolion cynradd.
Trosolwg o’r Prosiect
Rhwydwaith o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, addysg ac ymchwil yw HAPPEN sy’n anelu at wella iechyd, lles ac addysg plant ysgolion cynradd. Trwy HAPPEN, bydd plant rhwng 9 ac 11 oed yn cymryd rhan mewn Diwrnod Hwyl Ffitrwydd ac yn cwblhau ystod o asesiadau ffitrwydd, iechyd a lles, ar y cyd â Phrosiect SwanLinx (Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Abertawe) a Choleg Gŵyr.
Bydd y data a gesglir yn cael ei fwydo’n ôl i ysgolion ar ffurf adroddiad yn cymharu iechyd a lles disgyblion â chyfartaleddau sirol, ochr yn ochr â chanllawiau iechyd a dolenni at fentrau lleol mewn ysgolion. Trwy ledaenu’r data hwn i ysgolion, byddant yn gallu nodi’r rhannau o’r adroddiad y dymunant eu blaenoriaethu.
Trwy ddefnyddio cronfa ddata SAIL, caiff y data a gesglir yn ystod y Diwrnod Hwyl Ffitrwydd ei gysylltu at ddata iechyd electronig a gasglwyd yn anhysbys, gan gynnwys cofnodion meddygon teulu, derbyniadau i ysbytai a chyrhaeddiad addysg. Hyd yn hyn, mae HAPPEN wedi casglu data dros 5000 o ddisgyblion.
Ewch i wefan Rhwydwaith HAPPEN i gael rhagor o wybodaeth.
Dilynwch HAPPEN ar Twitter