Emily Marchant, Charlotte Todd, Danielle Christian, Richard Tyler, Gareth Stratton a Sinead Brophy – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Mae sicrhau bod iechyd a lles plant yn dda yn bwysig iawn i gynyddu eu cyflawniad, eu cyfleoedd cyflogaeth, a’u hiechyd a’u lles fel oedolion i’r eithaf. Ystyrir bod ysgolion mewn sefyllfa ddelfrydol i sbarduno newid a helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ac addysg. Ond yn sgil y pwyslais cynyddol a roddir ar lythrennedd a rhifedd yn yr ystafell ddosbarth gan arolygwyr addysgol, nid yw anghenion iechyd a lles plant yn cael eu bodloni, ac mae ysgolion yn teimlo fel petaent wedi’u hynysu wrth geisio mynd i’r afael â’r diffygion hyn.
Roedd angen dull partneriaeth i oresgyn hyn, gan ddwyn ynghyd amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o sawl maes i fynd i’r afael ag anghenion addysgol yn ogystal â chanlyniadau addysgol ac anghenion ysgol y plant.

Yr Ymchwil
I fynd i’r afael â’r her hon, datblygodd tîm prosiect wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe rwydwaith o’r enw HAPPEN (Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion sy’n ymwneud â Rhwydwaith Addysg Gynradd). Mae’r rhwydwaith yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, addysg, ac ymchwil.
Mae HAPPEN yn canolbwyntio ar blant 9-11 oed sy’n cwblhau asesiadau iechyd a lles yn rhan o’r prosiect Swan-Linx; cesglir data ar fynegai más y corff (BMI), ffitrwydd, maeth, gweithgarwch corfforol, cwsg, lles, canolbwyntio, ac argymhellion plant ar wella iechyd yn eu hardal.
Y Canlyniadau
Casglwyd data o 2500 o blant yn ardal Abertawe. Gan weithio gyda’r gronfa ddata SAIL, sy’n dileu enwau’r cyfranogwyr yn yr astudiaeth i ddiogelu eu preifatrwydd a chydymffurfio â’r holl reolau diogelu data, roedd ymchwilwyr Sefydliad Farr yn gallu cysylltu ac astudio data ynglŷn ag ymddygiad iechyd plant, cofnodion iechyd (gan gynnwys: cofnodion meddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty, ac ati) a data addysgol (gan gynnwys: cyrhaeddiad addysgol yng Nghyfnod Allweddol 1 a 2).
Yna, defnyddiodd yr ymchwilwyr y data hwn i roi adroddiadau adborth i’r ysgolion, a sefydliadau (dietegwyr, cymdeithasau datblygu chwaraeon, elusennau lleol, a gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol). Ysgrifennwyd yr adroddiadau yn unol â fframwaith y cwricwlwm i sicrhau bod addysg y plant yn cael ei gwella, ac i alluogi ysgolion i weld sut maen nhw’n cymharu ag ysgolion eraill yn eu sir er mwyn amlygu meysydd angen; er enghraifft, canran uchel o blant nad ydynt yn bwyta brecwast.
Rhoddir cymorth a chyngor parhaus i’r ysgolion trwy wefan HAPPEN, sy’n caniatáu i staff addysgu gael at adnoddau y gallant eu defnyddio i wella ymyriadau iechyd a lles yn ogystal â sicrhau bod anghenion y cwricwlwm yn cael eu bodloni.
Yr Effaith
Mae defnyddio ymgynghori, ymgysylltu a chydweithio wedi sicrhau llwyddiant y rhwydwaith hyd yma ac mae nifer yr ysgolion sy’n ymuno â’r rhwydwaith yn parhau i gynyddu.
Mae’r bartneriaeth rhwng ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr NCPHWR yn darparu ymagwedd fwy unedig wedi’i seilio ar dystiolaeth i helpu i fynd i’r afael ag iechyd, lles ac addysg plant.
Yn ôl dirprwy bennaeth ysgol gynradd yn Abertawe;
“Ar ôl i ni gael ein pecyn data, roedd yn achos pryder i ni ganfod, ym mlwyddyn 5 a 6, bod tua thraean o’n plant dros bwysau, ac er bod ein hysgol yn gwneud yn well na’r sgôr gwibio’n ôl ac ymlaen gyfartalog ar draws ysgolion, roedd rhai plant yn cael trafferth gwibio’n ôl ac ymlaen naw gwaith (9 × 20 metr). Yn ogystal, dywedodd 38% o’r plant nad oeddent yn hapus â’u ffitrwydd. Er bod yr ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar iechyd, ffitrwydd a lles, roedd yn amlwg bod angen i ni gynyddu eu proffil trwy eu cynnwys yn ein Cynllun Datblygu ysgol. Rydym wedi cynyddu’r cyfleoedd a gynigir i’r plant. Rydym wedi myfyrio ar ein gwersi addysg gorfforol a chynllunio ar gyfer cynnwys elfennau mwy egnïol mewn gwersi eraill, fel sillafu, lle mae’r plant yn rhedeg i baru geiriau â ffonemau. Yn olaf, mae’r plant yn rheoli eu ffitrwydd eu hunain, trwy weithio gyda phartneriaid i osod nodau personol”.