Prof Jane Noyes, Prifysgol Bangor and Dr Graham Moore, Prifysgol Caerdydd
Yr Her
Mae Agenda 2030 ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy yn galw am drawsnewid gwirioneddol, ac am ymagweddau sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol a chymhleth o salwch ac anghydraddoldeb er mwyn cyflawni gwelliannau parhaol o ran iechyd i bawb. Fodd bynnag, mae llywodraethau a rhaglenni’n ei chael hi’n anodd gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth er mwyn gwireddu’r nodau uchelgeisiol hyn.
Swyddogaeth graidd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yw datblygu canllawiau a fydd yn datgan argymhellion a ddyluniwyd i gefnogi llunwyr polisi a rheolwyr rhaglenni. Mae argymhellion yng nghanllawiau WHO yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol. Mae camau pwysig yn y broses o ddatblygu canllawiau’n cynnwys llunio cwestiwn allweddol, gwerthuso ansawdd y dystiolaeth a chyfuno effeithiau ymyriadau. Ond datblygwyd y dulliau adolygu systematig a ddefnyddir yn y camau hyn yn wreiddiol ar gyfer ymyriadau clinigol, megis meddyginiaeth, ac nid ydynt yn addas i ymyriadau iechyd cyhoeddus cymhleth nac ymyriadau systemau iechyd.
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a’r realiti o ymyriadau iechyd cyhoeddus cymhleth a systemau iechyd a diwallu anghenion y rhai sy’n gwneud penderfyniadau’n well, comisiynodd WHO set o bapurau ar ddulliau y gellid eu defnyddio i wneud penderfyniadau ynghylch iechyd ar sail tystiolaeth, gan fynd i’r afael ag ymyriadau a systemau iechyd sy’n gymhleth ac yn astrus.

Cyfres o Bapurau
Noddodd grŵp llywio WHO arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw, a oed dyn cynnwys ymchwilwyr NCPHWR (Prof Jane Noyes, Prifysgol Bangor and Dr Graham Moore, Prifysgol Caerdydd), i ffurfio gweithgorau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau perthnasol i lunio cyfres o bapurau. Mae wyth papur y gyfres hon yn canolbwyntio ar gamau ym mhroses datblygu canllawiau WHO fel yn y crynodeb a geir yn y llun isod.
- Mae’r pedwar papur cyntaf yn ystyried cysyniadau, yn llunio cwestiynau ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer y papurau sy’n dilyn, sy’n mynd ymlaen i drafod materion mwy penodol.
- Mae’r tri phapur nesaf yn y gyfres yn:
- Trafod cyfuniad tystiolaeth (deall astudiaethau unigol yng nghyd-destun gwybodaeth fyd-eang)
- Ystyried goblygiadau cymryd safbwynt cymhlethdod wrth lunio tystiolaeth ansoddol, meintiol a dulliau-cymysg (safbwynt cymhlethdod yw defnyddio set o fframweithiau i ddatblygu systemau cymhleth a’u hastudio).
- Mae papur olaf y gyfres yn ystyried goblygiadau cymhlethdod wrth asesu safon y dystiolaeth.
Yr Effaith
Mae gan y casgliad hwn o bapurau arwyddocâd byd-eang ac mae’n cyfrannu at ddealltwriaeth cymhlethdod a’r goblygiadau ar gyfer datblygu canllawiau. Mae’r gyfres yn amlinellu ymagweddau a dulliau sy’n gallu helpu adolygwyr a’r rhai sy’n datblygu canllawiau i ystyried cymhlethdod.
Gellir defnyddio canfyddiadau’r papurau i gryfhau prosesu datblygu canllawiau WHO ei hun a chyfrannau at wybodaeth a thrafodaeth ryngwladol, gan sicrhau bod y canllawiau newydd yn berthnasol ac yn helpu aelod-wladwriaethau i fodloni nodau datblygiad cynaliadwy erbyn 2030.
Gallwch weld y gyfres gyflawn o bapurau yma:
Complex health interventions in complex systems: improving the process and methods for evidence-informed health decisions //://gh.bmj.com/content/4/Suppl_1/e000963
Implications of a complexity perspective for systematic reviews and guideline development in health decision making //://gh.bmj.com/content/4/Suppl_1/e000899
Taking account of context in systematic reviews and guidelines considering a complexity perspective //://gh.bmj.com/content/4/Suppl_1/e000840
The WHO-INTEGRATE evidence to decision framework version 1.0: Integrating WHO norms and values and a complexity perspective //://gh.bmj.com/content/4/Suppl_1/e000844
Formulating questions to address the acceptability and feasibility of complex interventions in qualitative evidence synthesis //://gh.bmj.com/content/4/Suppl_1/e001107
Synthesizing quantitative evidence in systematic reviews of complex health interventions //://gh.bmj.com/content/4/Suppl_1/e000858
Qualitative evidence synthesis for complex interventions and guideline development: clarification of the purpose, designs and relevant methods //://gh.bmj.com/content/4/Suppl_1/e000882
Synthesising quantitative and qualitative evidence to inform guidelines on complex interventions: clarifying the purpose, designs and outlining some methods //://gh.bmj.com/content/4/Suppl_1/e000893