TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae data clinigol testun rhydd yn ffynhonnell eang o wybodaeth gyfoethog na fanteisiwyd arno hyd yma, a all lywio ymchwil a gofal clinigol fyddai’n egluro ac yn ychwanegu at y wybodaeth wedi’i godio mewn meysydd data strwythuredig, pe bai’n haws cael mynediad iddo.
Yn gyffredinol, mae angen gwneud data clinigol yn ddienw cyn ei ddefnyddio at ddibenion eilaidd, fel archwilio neu ymchwilio, ond wynebir heriau sylweddol wrth ddod o hyd i ddulliau effeithiol nad ydynt yn peryglu defnyddioldeb data testun rhydd.
I grynhoi, mae angen i ni wneud data testun rhydd yn fwy hygyrch, ond sicrhau y gwneir hyn mewn modd diogel.
Er bod cyfoeth o ymchwil ar gael yn ymwneud â dulliau o wneud testun rhydd yn ddienw, mae angen gwaith sy’n canolbwyntio ar ddatblygu modelau llywodraethu data.
Ein prif nod ym mhrosiect TexGov yw gweithio tuag at greu safonau llywodraethu data er mwyn galluogi defnyddio data testun rhydd yn ddiogel wrth ymchwilio er lles cleifion a’r cyhoedd.