Sefydliad
Prifysgol Caerdydd
Cyswllt Allweddol
Yr Athro Shantini Paranjothy
Thema’r Ymchwil
Iechyd y Boblogaeth, Iechyd cyhoeddus
Wedi’i Ariannu Gan
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Hyd y Prosiect
Parhaus

Nod y Prosiect
Mae Doeth am Iechyd Cymru yn astudiaeth ymchwil gyfrinachol, sy’n ceisio datblygu gwybodaeth drylwyr am iechyd y genedl. Bydd y wybodaeth a enillir yn cael ei defnyddio i helpu’r GIG i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cymorth ar gyfer anghenion iechyd a gwerthuso gwasanaethau a pholisïau.
Bwriad yr astudiaeth yw codi ymwybyddiaeth o waith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ymysg y cyhoedd, a chynnig ffordd i’r cyhoedd gymryd rhan weithredol mewn gwaith ymchwil a chyfrannu ato.
Trosolwg o’r Prosiect
Mae gwaith ymchwil yn hanfodol er mwyn datblygu gwell triniaethau a rheoli afiechydon
- Mae Cymru’n wynebu nifer o heriau iechyd.
- Mae pobl yn byw yn hirach ond mae un oedolyn ym mhob tri yn dweud bod eu gweithgareddau o ddydd i ddydd yn cael eu cyfyngu gan broblem iechyd, ac mae hanner y bobl dros 65 oed yn cael triniaeth ar gyfer dau neu fwy o gyflyrau iechyd.
- Cynhelir nifer o astudiaethau er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, ond mae ymchwilwyr yn cael trafferth recriwtio digon o bobl.
Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer Doeth am Iechyd Cymru. Yna, maent yn ateb cwestiynau am eu hiechyd a’u lles ar wefan yr astudiaeth.
Yna, mae’r astudiaeth yn cysylltu â’r cyfranogwyr bob 6 mis i ofyn cwestiynau am eu ffordd o fyw, eu hiechyd a’u lles – fel bod modd i ymchwilwyr weld sut mae ffordd o fyw ac iechyd y cyfranwyr wedi newid.
Hefyd, bydd aelodau’r cyhoedd sy’n cofrestru ar gyfer yr astudiaeth yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol penodol a all fod yn berthnasol iddynt. Gall hyn gynnwys cysylltu â nhw o ganlyniad i gyflwr penodol (clefyd y galon, llid yr ymennydd, diabetes, canser ac ati).
Am ragor o wybodaeth am Doeth am Iechyd Cymru ac i gofrestru, ewch i