Sinead Brophy, Roxanne Cooksey, Jonathan Kennedy and Helen Davies – Prifysgol Abertawe
Astudiodd ymchwilwyr effaith ymwybyddiaeth ofalgar ar bobl a chanddynt sbondylitis ymasiol (SY).
Yr Her
Sbondylitis ymasiol (SY) yw’r ail fath mwyaf cyffredin o arthritis llidiol ar ôl arthritis gwynegol. Gall y llid sy’n gysylltiedig â’r cyflwr achosi i’r asgwrn cefn asio’n barhaol, gan leihau symudedd ac ansawdd bywyd yr unigolyn yn sylweddol. Yn aml, mae pobl a chanddynt SY yn byw gyda llawer o boen, anystwythder a blinder.

Yr Ymchwil
Astudiodd tîm o ymchwilwyr, wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, effaith dulliau lleihau straen seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBSR) ar bobl a chanddynt arthritis.
Mae MBSR yn defnyddio cyfuniad o fyfyrio ymwybyddiaeth ofalgar, ymwybyddiaeth o’r corff, ac ioga. Mae rhaglenni MBSR wedi cael eu defnyddio i drin amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys lleihau poen a straen.
Gwahoddwyd 193 o bobl a chanddynt arthritis i gymryd rhan mewn cwrs 8 wythnos ar ddulliau lleihau straen seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Edrychodd yr astudiaeth ar sawl gwaith yr ymwelodd y cyfranogwyr â’u meddyg teulu cyn ac ar ôl y cwrs 8 wythnos. Astudiwyd pobl nad oeddent wedi cymryd rhan hefyd, er mwyn cymharu.
Y Canlyniadau
Dangosodd yr astudiaeth ostyngiad sylweddol yn nifer yr ymweliadau â meddyg teulu ymhlith y grŵp a gymerodd ran yn y cwrs ymwybyddiaeth ofalgar o gymharu â’r grŵp na chymerodd ran ynddo.
Yr Effaith
Mae’r astudiaeth hon yn awgrymu y gallai dulliau lleihau straen seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar fod yn ffordd effeithiol o leihau sawl gwaith y mae pobl a chanddynt arthritis yn ymweld â’u meddyg teulu – gan arbed llawer o arian i’r GIG, o bosibl.
Mae hefyd yn awgrymu, yn sgil llai o ymweliadau â’u meddyg teulu, bod y cwrs ymwybyddiaeth ofalgar yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles y cleifion sy’n cymryd rhan ynddo.
Mae canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn yn awgrymu y byddai astudiaeth lawn ac ymarfer cost-effeithiol yn fuddiol.