Prof. Ronan Lyons – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Dangoswyd bod gan dai o ansawdd gwael effeithiau andwyol ar iechyd preswylwyr, a chredir bod tai oer yn achosi 33% o glefydau anadlu a 40% a chlefydau’r galon. Amcangyfrifir bod dros 12.8 o farwolaethau y gellir eu hosgoi ym mhob 100,000 yn digwydd o ganlyniad i fyw mewn tai heb wresogi digonol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd prin yw’r dystiolaeth o safon i gefnogi hyn.

Yr Ymchwil
Ymchwiliodd y tîm o ymchwilwyr, sy’n cynnwys nifer o ymchwilwyr NCPHWR o Brifysgol Abertawe, i a allai uwchraddio tai cyngor a dod â thai i safon ansawdd genedlaethol liniaru’r pwysau ar y GIG.
Gweithiodd y tîm ymchwilio gyda data o 8,558 o breswylwyr tai cyngor yn Sir Gâr, rhwng 2007 a 2016. Gwnaed gwelliannau i gartrefi’r preswylwyr, gan gynnwys systemau gwresogi a thrydanol newydd, insiwleiddio llofftydd a waliau, ceginau ac ystafelloedd ymolchi, ffenestri a drysau a llwybrau gardd newydd.
Cafodd data am dderbyniadau i’r ysbyty eu cysylltu â gwybodaeth a ddarparwyd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ar gyfer yr holl dai lle gwnaed gwelliannau. Yna cymharodd yr ymchwilwyr nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer preswylwyr y tai lle gwnaed gwelliannau â phreswylwyr y tai nad oeddent wedi’u gwella.
Y Canfyddiadau
Datgelwyd gostyngiadau sylweddol yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer preswylwyr tai lle gwnaed gwelliannau. Dangosodd y canfyddiadau leihad sylweddol o hyd at 39% mewn derbyniadau ar frys ar gyfer salwch yn ymwneud â’r galon ac anadlu. Roedd hyn ymhlith tenantiaid 60 oed ac yn hŷn, ond cafwyd canlyniadau tebyg ar gyfer pobl o bob oedran. Gwelwyd gostyngiad hefyd mewn presgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau asthma ac ymweliadau â meddygon teulu ymhlith preswylwyr o bob oedran.
Yr Effaith
Mae ymchwilwyr wedi dangos y gall gwneud gwelliannau i dai cymdeithasol helpu’n sylweddol wrth leihau derbyniadau brys i’r ysbyty. Yn bwysig iawn, mae’r astudiaeth yn darparu sail dystiolaeth gadarn y gellir ei defnyddio i lywio penderfyniadau llywodraethau lleol a llunwyr polisi, gan ddangos y gall gwelliannau i dai arwain at effeithiau cadarnhaol sylweddol ar gymdeithas, yr economi ac iechyd cyhoeddus. Am ragor o wybodaeth am yr ymchwil, ewch i: //://www.journalslibrary.nihr.ac.uk/phr/phr06080#/abstract