TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae Gwasanaeth Cludo a Chasglu Meddygol Brys (EMRTS) Cymru’n darparu help cyflym gan feddygon arbenigol sy’n cael eu cludo gan hofrenyddion ac ambiwlansau ar gyfer pobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol neu’n ddifrifol sâl ledled Cymru.
Ei nod yw gwella cyfraddau goroesi pobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol neu sy’n sâl iawn, gan gynnwys rhai sydd wedi dioddef ataliad y galon. Dechreuodd y gwasanaeth ym mis Ebrill 2015 ac mae’n cyrraedd amcangyfrif o 300 o bobl bob blwyddyn. Yn rhai rhannau o’r byd, ond nid ym mhob man, mae gwasanaethau tebyg wedi arwain at wella cyfraddau goroesi.
Bydd ein gwerthusiad yn dod â data cymhleth ynghyd am gleifion sy’n cael eu trin gan y gwasanaeth dros gyfnod o bum mlynedd, a bydd yn cymharu’r canlyniadau gyda grŵp tebyg o bobl cyn y cyflwynwyd y gwasanaeth, neu pan nad yw’n gweithredu, fel gyda’r nos neu yn ystod tywydd garw pan na all yr hofrenyddion hedfan.
Bydd y gwerthusiad yn cymharu canlyniadau, gan gynnwys goroesi, ansawdd bywyd a galluoedd ymarferol (gallu gofalu am eu hunain), newidiadau o ran hyd yr arhosiad yn yr ysbyty, newidiadau yn nefnydd gofal iechyd mewn grwpiau sy’n derbyn, neu nad ydynt yn derbyn, y gwasanaeth. Bydd y prosiect yn helpu’r gwasanaeth i barhau i wella a datblygu.