Trosolwg o’r Prosiect
Gwerthuso effeithiau cynlluniau wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a ddyluniwyd er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm isel ar ganlyniadau iechyd trwy ddefnyddio data sy’n bodoli eisoes.
Roedd y prosiect yn defnyddio data sy’n bodoli eisoes i werthuso cynlluniau wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi incwm isel.
Gan adeiladu ar waith ymchwil blaenorol, ein nod oedd helpu ein cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddeall effaith tlodi tanwydd ar iechyd pobl a gwerthuso’r strategaeth ar gyfer lleihau nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, â’r nod o lywio polisïau yn y dyfodol.
Byddai’r canlyniadau’n gwella dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o’r rheiny sydd mewn mwy o berygl o brofi effeithiau iechyd niweidiol yn sgil byw mewn tlodi tanwydd, gan ddarparu tystiolaeth i gyfrannu at greu polisïau.
Byddai gwella’r strategaeth tlodi tanwydd yn cynyddu’r potensial ar gyfer lleihau nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd ac felly’n gwella iechyd a lles pobl sy’n byw yng Nghymru.