TROSOLWG O’R PROSIECT
Bydd y prosiect hwn yn archwilio’r cysylltiad rhwng rhai meddyginiaethau ac ymddygiad cysylltiedig â hunanladdiad er mwyn pennu a yw rhai gwrth-iselyddion, neu gyfuniad o feddyginiaethau, yn arwain at risg uwch o hunanladdiad.
Hefyd, byddwn yn ystyried a yw newidiadau o ran statws cyflogaeth neu amgylchiadau ariannol yn effeithio ar ymddygiad sy’n gysylltiedig â hunanladdiad.
Mae’r prosiect yn rhoi cyfle pwysig i archwilio pa mor fuddiol a defnyddiol yw dadansoddi data gweinyddol cyswllt a bydd yn cyfrannu at sail dystiolaeth ymchwil ar atal hunanladdiad, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i wneuthurwyr polisïau a chyfleoedd ar gyfer ymyrryd.
Trwy gysylltu data fferylliaeth, byddwn yn gallu archwilio pa mor effeithiol yw meddyginiaethau wrth atal hunanladdiad ac, felly, yn gwella’r driniaeth ar gyfer y bobl sydd mewn perygl.
Hefyd, bydd archwilio statws cyflogaeth ac amgylchiadau ariannol yn darparu nodweddion cefndirol hanfodol pobl sy’n lladd eu hunain, a fydd yn llywio ymyriadau ar gyfer atal hunanladdiad, ac yn helpu cynllunwyr gwasanaethau iechyd i lunio polisïau iechyd meddwl a chynlluniau gofal.
Hefyd, ceir diddordeb sylweddol ymysg gwneuthurwyr polisi ynghylch datblygu ymyriadau wedi’u hanelu at is-grwpiau penodol o’r boblogaeth.