Prof. Sinead Brophy, Rhiannon Griffiths – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Mae ymchwil flaenorol yn dangos bod ffactorau economaidd-gymdeithasol megis cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, cefndir teuluol a chymdogaeth yn cael effaith sylweddol ar gyrhaeddiad addysgol plant yn eu harholiadau Cyfnod Allweddol 2 (CA2). Nod yr astudiaeth hon yw ystyried data o feysydd amrywiol (economaidd-gymdeithasol, ysgolion, iechyd) i bennu’r hyn sy’n effeithio ar gyrhaeddiad addysgol plentyn yn CA2 yng Nghymru.

Yr Ymchwil
Defnyddiwyd sampl o 254,049 o blant o Gymru a oedd wedi sefyll arholiadau CA2 rhwng 2009 a 2016 i’w dadansoddi yn yr astudiaeth hon. Cyrchwyd data o’r gronfa ddata Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL). Casglwyd data demograffig gennym (rhyw, pwysau ar eni, aelodau’r aelwyd ayyb), data am anawsterau teuluol (rhieni’n mynd i’r ysbyty am gyflyrau yn ymwneud ag alcohol neu iechyd meddwl), data ysgol (presenoldeb, anghenion addysgol arbennig, canlyniadau CA2) a data iechyd ar ystod o gyflyrau (asthma, cyflwr ymddygiad, epilepsi, cyflyrau meddwl iechyd ayyb). Mesurwyd y data hwn yn erbyn a oedd y plentyn wedi bodloni’r cyfraddau cyflawniad sylfaenol yn CA2 (gan gyflawni o leiaf lefel 4 mewn Mathemateg a Saesneg).
Y Canfyddiadau
Y ffactorau a oedd yn achosi’r effaith fwyaf andwyol ar gyflawniad plant oedd anghenion addysgol arbennig, cyflwr ymddygiad, hunan-niweidio annatrys, epilepsi a chlaf a oedd wedi cael ei dderbyn i’r ysbyty yn flaenorol am gyflwr iechyd meddwl. Y ffactorau a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad addysgol oedd pwysau uwch ar eni ac unedau teuluol llai.
Yr Effaith
Mae’n hymchwil yn dangos y plant hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf o beidio â chyrraedd y safon ofynnol yn CA2. Dyma wybodaeth hanfodol ar gyfer y rhai sy’n datblygu ymyriadau ar sail tystiolaeth gyda’r nod o wella canlyniadau cyrhaeddiad mewn ysgolion cynradd. Gall nodi plant gyda’r cyflyrau iechyd uchod, o’r teuluoedd mwyaf diamddiffyn, gyda’r ymyriadau cywir yn gynnar gael effaith fawr ar gyrhaeddiad addysgol plentyn.
Am ragor o wybodaeth am yr ymchwil hon, cysylltwch â: r.e.griffiths@abertawe.ac.uk