TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae defnyddio data genetig gyda data iechyd arferol yn esgor ar botensial difesur ar gyfer ymchwil, ond mae’n hanfodol diogelu preifatrwydd a chynnal defnyddioldeb data, er mwyn manteisio ar y buddion gan fodloni’r rhwymedigaethau moesegol a chyfreithiol ar yr un pryd.
Prif nod GeDI yw archwilio’r materion sy’n berthnasol i integreiddio data genetig mewn hafanau diogel data, yn enwedig Banc Data SAIL, a’i gysylltu â data iechyd a gesglir fel arfer ar gyfer ymchwil.
Bydd ein canfyddiadau’n llywio perthnasoedd gwaith rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Parc Geneteg Cymru, Gwasanaeth Geneteg Meddygol Cymru Gyfan, grwpiau ymchwil penodol gyda setiau data genomig, Banc Data SAIL ac yn ehangach.