Sinead Brophy, Kelly Morgan, Mark Atkinson, Muhammad Rahman – Prifysgol Abertawe
Mae gordewdra yn ystod beichiogrwydd yn effeithio ar oddeutu 1 o bob 20 o fenywod yng Nghymru, ac mae’n broblem iechyd gynyddol sy’n cael effaith ar iechyd y fam a’r plentyn, yn ogystal ag arwain at gostau i’r GIG. Mae’n gysylltiedig â babanod trymach, mwy o ymyriadau wrth roi genedigaeth, babanod ag iechyd gwaeth a thebygolrwydd uwch y bydd y baban yn tyfu i fod dros bwysau neu’n ordew.
Mewn astudiaeth dwy ran a edrychodd yn annibynnol ar ddefnydd o’r gwasanaeth iechyd gan famau gordew yn ystod eu beichiogrwydd, ac yna ar ddefnydd o’r gwasanaeth iechyd gan y plentyn yn ystod ei flwyddyn gyntaf, canfuwyd bod mamau gordew a’u plant yn defnyddio’r gwasanaeth iechyd mwy na mamau o bwysau iach a’u plant.
Roedd cost gyfartalog pob beichiogrwydd gordew 37% yn uwch i’r GIG na beichiogrwydd mamau o bwysau iach, ac roedd cost gyfartalog gofal ar gyfer blwyddyn gyntaf bywyd plentyn a anwyd i fam ordew 72% yn uwch na phlant a anwyd i famau o bwysau iach.
Wrth gyfrifo cost gyfunol defnydd uwch o’r gwasanaeth iechyd gan y fam a’r plentyn, dangosodd yr ymchwil y gallai ymyriadau sy’n costio llai na £2,310 fesul mam ordew fod yn gost-effeithiol os oeddent yn lleihau defnydd o ofal iechyd ymhlith y menywod hyn i’r un lefel â menywod o bwysau iach.

Astudiaeth 1 – Gordewdra yn ystod beichiogrwydd a’r effaith ar ddefnydd o’r gwasanaeth iechyd gan famau
Amcangyfrifodd y prosiect ymchwil hwn y gost gofal iechyd uniongyrchol sy’n gysylltiedig â bod dros bwysau neu’n ordew yn ystod beichiogrwydd i’r GIG yng Nghymru. Archwiliodd yr astudiaeth y gost gofal iechyd uniongyrchol gyda’r bwriad o awgrymu faint y gellid ei wario ar ymyriadau iechyd cyhoeddus gan barhau i arbed costau.
Trwy weithio gyda’r gronfa ddata SAIL, sy’n gwbl ddienw i gydymffurfio â’r holl reolau diogelu data, tynnwyd a chysylltwyd data o gofnodion meddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty, holiaduron, nodiadau beichiogrwydd y fam a chofnod iechyd y plentyn (y llyfr coch).
Yn ystod 2011 – 2012, cymerodd 484 o fenywod ran yn yr astudiaeth ac fe’u categoreiddiwyd yn ddau grŵp: mynegai màs y corff (BMI) arferol a dros bwysau/gordew.
Cyfrifwyd costau fel costau’r fam (nid y baban) ac roeddent yn gysylltiedig â defnydd o ofal iechyd drwy gydol y beichiogrwydd a dau fis ar ôl yr enedigaeth.
Dangosodd yr ymchwil fod cysylltiad cryf rhwng cost defnydd o ofal iechyd a BMI, a bod costau uwch ymhlith menywod gordew a dros bwysau o gymharu â mamau o bwysau arferol.
Canfu’r astudiaeth fod cost pob beichiogrwydd 23% yn uwch i’r GIG ar gyfer menywod dros bwysau a 37% yn uwch ar gyfer menywod y’u categoreiddiwyd yn ordew. Roedd menywod gordew yn treulio 30% yn fwy o ddiwrnodau yn yr ysbyty, ar gyfartaledd, ac roedd eu defnydd o’r holl wasanaethau gofal iechyd rhwng 15 ac 20% yn uwch. Dangosodd yr astudiaeth hefyd gynnydd mewn toriadau Cesaraidd ac iechyd gwael y fam a’r baban.
O’i chymhwyso i’r GIG ar draws y Deyrnas Unedig, roedd cost ychwanegol menywod dros bwysau a gordew yn dod i rhwng £105 miliwn a £286 miliwn.
Daeth yr ymchwil i’r casgliad y gallai ymyriadau sy’n costio llai na £1171.34 yr unigolyn fod yn gost-effeithiol os oeddent yn lleihau defnydd o ofal iechyd ymhlith menywod gordew i’r un lefel â menywod o bwysau iach – gan arbed arian i’r GIG a rhoi canlyniadau iechyd gwell i’r fam a’r baban.
Astudiaeth 2 – Gordewdra yn ystod beichiogrwydd a’r effaith ar ddefnydd o’r gwasanaeth iechyd gan y plentyn yn ystod ei flwyddyn gyntaf
Ceisiodd astudiaeth ddilynol, sef ‘Gordewdra yn ystod Beichiogrwydd: Defnydd o’r Gwasanaeth Iechyd gan Fabanod a’r Costau i’r GIG’, amcangyfrif cost gofal iechyd uniongyrchol babanod a anwyd i famau dros bwysau neu ordew i’r GIG yn y Deyrnas Unedig. Archwiliodd yr astudiaeth y gost gofal iechyd uniongyrchol gyda’r bwriad o awgrymu faint y gellid ei wario ar ymyriadau iechyd cyhoeddus gan barhau i arbed costau.
Trwy weithio gyda’r gronfa ddata SAIL, cyfunwyd a chysylltwyd data ar grŵp o barau o famau a’u plant a oedd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth ‘Tyfu yng Nghymru: Amgylcheddau ar gyfer Byw’n Iach’.
Astudiwyd 609 beichiogrwydd yr oedd cofnodion gwasanaeth iechyd a mynegai màs y corff (BMI) y fam cyn geni ar gael ar eu cyfer. Categoreiddiwyd y babanod fel rhai oedd yn iach, dros bwysau neu’n ordew yn unol â phwysau beichiogrwydd cynnar y fam (BMI).
Cyfrifwyd y costau ar gyfer y flwyddyn 2012-2013 fel cost defnydd y baban (nid y fam) o ofal iechyd o’i enedigaeth hyd at 1 flwydd oed. Dangosodd canlyniadau’r ymchwil fod cysylltiad cryf rhwng costau defnydd o ofal iechyd a BMI.
Dangosodd y canfyddiadau gynnydd sylweddol mewn defnydd o’r gwasanaeth iechyd a chostau cysylltiedig i fabanod a anwyd i famau gordew. Roedd y costau cyfartalog i’r GIG 72% yn uwch ymhlith plant a anwyd i famau gordew o gymharu â babanod a anwyd i famau o bwysau iach. Amcangyfrifir bod babanod a anwyd i famau gordew yn costio £1138.11 yn fwy na babanod a anwyd i famau o bwysau iach.
Yr Effaith
Mae’r ddwy astudiaeth yn ychwanegu elfen economaidd at bwysigrwydd hyrwyddo pwysau iach ymhlith menywod sydd o oedran beichiogi. Gall y canfyddiadau helpu i lywio polisi ac ysgogi ymyriadau cost-effeithiol i atal gordewdra ymhlith mamau.
Gan ychwanegu at ganlyniadau’r ddwy astudiaeth hyn, mae ymchwilwyr NCPHWR ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan o’r tîm sy’n gwerthuso “Bump Start”. Mae’r prosiect Bump Start, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, yn cynnig sesiynau un i un ar iechyd a ffordd o fyw gyda dietegydd-fydwraig. Bydd yr astudiaeth newydd hon yn gwerthuso faint o bwysau a enillwyd, genedigaeth ac iechyd babanod mewn perthynas â menywod y cynigiwyd y sesiynau hyn iddynt o gymharu â grŵp rheoli a gaiff eu trin yn y ffordd arferol. Bydd y gwaith hwn yn archwilio cost y sesiynau hyn o gymharu ag unrhyw arbedion cost a ddaw yn sgil gwell genedigaethau ac iechyd ar gyfer y baban a’r fam.