TROSOLWG O’R PROSIECT
Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i b’un a yw newidiadau i fynediad a chysylltiad pobl ag amgylcheddau naturiol yng Nghymru’n effeithio ar eu hiechyd meddwl.
Mae’r astudiaeth gydweithredol dair blynedd o hyd yn dwyn ynghyd arbenigwyr o feysydd iechyd, daearyddiaeth, cyswllt data, ystadegau a seicoleg o brifysgolion Abertawe, Lerpwl, Caerwysg a Chaerdydd a’r Barcelona Institute for Global Health.
Mae un person ym mhob pedwar yn profi cyflwr iechyd meddwl yn ystod eu bywydau, a gall mynediad i amgylcheddau naturiol – ‘mannau gwyrdd a glas’ fel parciau a thraethau – roi cyfleoedd i gefnogi a hybu iechyd a lles meddyliol da ymysg y cyhoedd.
Byddwn yn ymchwilio a yw newidiadau i fynediad a chysylltiad pobl â mannau gwyrdd a glas, er enghraifft maent yn symud tŷ neu mae’r tir o amgylch eu cartref yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd wahanol, yn cael effaith ar eu hiechyd meddwl.
Mae hon yn astudiaeth gyswllt data sy’n edrych yn ôl, sy’n golygu y byddwn yn dod â data iechyd, amgylchedd ac arolygon ynghyd o’r 11 mlynedd ddiwethaf (2008-2018).
Byddwn yn creu set data hydredol o fannau gwyrdd a glas yng Nghymru gyda data o ffynonellau fel yr Arolwg Ordnans, awdurdodau lleol a data lloeren, a byddwn yn ei ddefnyddio i fesur mynediad pobl at fannau gwyrdd a glas.
Yna, bydd y mesuriadau hyn, ynghyd â data arolwg am ba mor optimistaidd neu ymlaciedig oedd pobl, yn cael eu cysylltu â data iechyd dienw ym Manc Data SAIL (Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel) i’n helpu i bennu a yw newid cadarnhaol o ran mynediad a chysylltiad â mannau gwyrdd a glas yn lleihau’r risg o orbryder ac iselder.
Byddwn yn rhannu ein canlyniadau gyda gwneuthurwyr polisi, awdurdodau lleol ac elusennau’r trydydd sector er mwyn ysgogi polisi ac ymarfer ar sail tystiolaeth.