TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae HAPPEN yn rhwydwaith o weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd, addysg ac ymchwil sy’n ceisio gwella canlyniadau iechyd, lles ac addysg plant ysgol gynradd yng Nghymru.
Cafodd y rhwydwaith ei datblygu yn dilyn ymchwil ansoddol gyda phenaethiaid oedd yn teimlo eu bod yn cael eu gorlwytho gan fentrau, ac yn galw am well dealltwriaeth o anghenion ysgolion a dull mwy cydweithredol o wella iechyd mewn ysgolion.
Trwy HAPPEN, mae data iechyd a ffitrwydd hunangofnodedig a gwrthrychol yn cael ei gasglu am blant 9-11 oed trwy arolwg HAPPEN. Rydym yn adrodd hwn yn ôl i ysgolion trwy adroddiadau ysgol unigolion a ffeithluniau sydd wedi’u teilwra i’r cwricwlwm newydd, gan gymharu iechyd a lles disgyblion â’r cyfartaledd ar gyfer y sir, ynghyd â chanllawiau iechyd a chysylltiadau â mentrau iechyd lleol mewn ysgolion.
Mae lledaenu’r data’n rhoi hunanreolaeth i’r ysgolion i ddewis pa feysydd o’r adroddiad i’w blaenoriaethu.
Hyd yma, rydym ni wedi casglu data ar dros 6,000 o ddisgyblion ysgol gynradd yn ne Cymru.
Hefyd, mae HAPPEN yn gweithredu fel llwyfan ar gyfer gwerthuso ymyriadau mewn ysgolion, gan gynnwys Dysgu yn yr Awyr Agored a The Daily Mile.
Un agwedd newydd sbon yn HAPPEN yw defnyddio cyswllt data – mae data sy’n cael ei gasglu am ddisgyblion yn cael ei gysylltu â data iechyd electronig dienw sy’n cael ei gasglu fel arfer, gan gynnwys cofnodion meddyg teulu, derbyniadau i ysbytai a chyflawniad addysgol gan ddefnyddio Banc Data SAIL (Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel).
Os hoffech i’ch ysgol gynradd gymryd rhan yn arolwg HAPPEN, anfonwch neges e-bost at happen-wales@swansea.ac.uk.