TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae Doeth am Iechyd Cymru’n brosiect sy’n recriwtio aelodau’r cyhoedd yng Nghymru i gydweithio mewn prosiectau ymchwil yn ymwneud ag iechyd.
Gofynnir i gyfranogwyr lenwi holiaduron ar-lein ar y llwyfan rhyngrwyd sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd.
O bryd i’w gilydd, rydym yn anfon data at Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru er mwyn ei baru a rhoi enwau ffug, ac anfonir ymatebion yr holiaduron at Fanc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL).
Yma, byddwn yn ei gysylltu â data gofal iechyd, er mwyn ymestyn y wybodaeth a roddwyd gan gyfranogwyr mewn holiaduron trwy ei gysylltu â data am eu hiechyd.
Yna, caiff y data ei gludo i borth Llwyfan e-Ymchwil Diogel y DU (UKSeRP) lle mae ymchwilwyr sydd wedi gwneud cais i gael mynediad er mwyn cynnal prosiectau ymchwil penodol yn gallu gweithio ar eu data yn ddiogel.