S Paranjothy, S Hibbitts – Prifysgol Caerdydd; H Beer – Iechyd Cyhoeddus Cymru; S Brophy, MA Rahman – Prifysgol Abertawe; J Waller – Cancer Research UK
Dadansoddodd yr ymchwilwyr ddata ar grŵp o 30,882 o fenywod y cynigiwyd y brechlyn HPV iddynt yn rhan o’r rhaglen dal i fyny.
Yr Her
Yn ôl Cancer Research UK, canser serfigol yw’r ail ganser mwyaf cyffredin mewn menywod iau na 35 oed. Yn y Deyrnas Unedig, mae 2,900 o fenywod y flwyddyn yn cael diagnosis o ganser serfigol, sef tua wyth menyw bob dydd.
Mewn 99% o achosion, mae canser serfigol yn digwydd o ganlyniad i hanes o haint â mathau risg uchel o’r feirws papiloma dynol (HPV). HPV yw’r enw ar grŵp o feirysau sy’n effeithio ar y croen a’r pilenni llaith sy’n cysylltu’r corff. Yn aml, nid yw haint HPV yn achosi unrhyw symptomau.
Cynigir y brechlyn HPV i bob merch 12 i 13 oed yn rhan o raglen brechiadau plentyndod y GIG. Mae’r brechlyn yn amddiffyn yn erbyn canser serfigol.

Yr Ymchwil
Yn y Deyrnas Unedig, cychwynnwyd y rhaglen imiwneiddio HPV genedlaethol yn 2008 ar gyfer merched 12-13 oed. Yn ogystal, cychwynnwyd rhaglen dal i fyny ar gyfer merched hŷn hyd at 18 oed o 2009 i 2011. Roedd 49.4% o fenywod wedi manteisio ar y rhaglen dal i fyny.
Mae’n bwysig gwybod faint o fenywod sy’n mynd i gael prawf sgrinio serfigol yn y dyfodol yn ôl statws brechu er mwyn deall effaith y rhaglen frechu a’r goblygiadau i’r rhaglen sgrinio serfigol genedlaethol.
Dadansoddodd y tîm ymchwil ddata ar grŵp o 30,882 o fenywod y cynigiwyd y brechlyn HPV iddynt yn rhan o’r rhaglen dal i fyny ac a wahoddwyd i gael prawf sgrinio serfigol rhwng 2010 a 2012 yng Nghymru.
Y Canlyniadau
Yn y grŵp, roedd 14,966 o fenywod (48.5%) wedi cael y brechlyn HPV ac roedd 14,164 (45.9%) o fenywod wedi cael prawf sgrinio serfigol. Roedd menywod nad oeddent wedi cael y brechlyn yn llai tebygol o fynd i gael prawf sgrinio serfigol.
O’r rhai a gafodd brawf sgrinio, roedd gan 13.9% o’r menywod a oedd wedi cael eu brechu gelloedd annormal, o gymharu ag 16.7% o fenywod nad oeddent wedi cael eu brechu.
Canfuwyd hefyd fod menywod sy’n byw mewn ardaloedd lle y ceir lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol yn llai tebygol o fod wedi cael eu brechu neu fynd i brofion sgrinio serfigol, o gymharu â’r rhai hynny sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Yr Effaith
Mae’r canfyddiadau’n pwysleisio’r angen i hyrwyddo mwy o ymgysylltu â gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd sy’n fwy difreintiedig yn gymdeithasol, gyda phwyslais ar grwpiau oedran iau, i wella budd posibl rhaglenni atal o ran diagnosis cynnar a thriniaeth tymor hir. Mae’r rhaglen brechu HPV yn gyfle perffaith i gyfleu budd rhaglenni atal ac mae angen atgyfnerthu’r neges hon.
Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod angen strategaethau newydd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y defnydd o brofion sgrinio serfigol. Mae canlyniadau’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio mewn prosiect ymchwil parhaus a ariennir gan Cancer Research UK a fydd yn defnyddio modelu mathemategol i egluro effaith y rhaglen brechu HPV ar nifer yr achosion o ganser serfigol yn y dyfodol.