TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer cyflyrau cronig yn nod polisi cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd yr astudiaeth hon yn helpu gwella ein dealltwriaeth o sut caiff unrhyw anghydraddoldebau cymdeithasol yn ymwneud â ffeibrosis systig eu hachosi, a dylai arwain at argymhellion ar gyfer gwneuthurwyr polisi.
Mae ffeibrosis systig yn achos delfrydol ar gyfer astudio anghydraddoldebau o ran canlyniadau a mynediad i driniaeth ar gyfer cyflwr cronig, oherwydd nid yw statws economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar y risg o ffeibrosis systig, ond mae’n effeithio ar ganlyniadau iechyd a chymdeithasol y cyflwr.
Mae’r canlyniadau ar gyfer ffeibrosis systig wedi gwella’n sylweddol, ond nid yw pob grŵp economaidd-gymdeithasol wedi elwa mewn modd cyfartal. Er mwyn dylunio polisïau effeithiol i leihau’r anghydraddoldebau hyn, mae angen i ni wybod sut, ac ym mha adeg yn eu bywydau, y maen nhw’n cael eu sefydlu.
Hefyd, nid oes llawer o ddealltwriaeth o ganlyniadau cymdeithasol ffeibrosis systig. Mae ein hymchwil wedi dangos bod dirywiadau yng ngweithrediaeth yr ysgyfaint a’r amser a dreulir yn yr ysbyty yn fwy niweidiol i gyfleoedd cyflogaeth ymysg poblogaethau mwy difreintiedig sydd â ffeibrosis systig yn y DU, a defnyddiwyd y dystiolaeth hon er mwyn datblygu argymhellion ar gyfer polisi cymdeithasol.
Fodd bynnag, nid yw dylanwad dioddef ffeibrosis systig ar ganlyniadau a chyflawniad yn yr ysgol wedi cael ei archwilio ar lefel y boblogaeth.
Bydd ein hastudiaeth yn egluro’r materion hyn ac yn canolbwyntio’n benodol ar archwilio’r gwahaniaethau posibl yn yr effeithiau y mae plant o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol yn eu profi.
Byddwn yn defnyddio gwybodaeth ddemograffig a chofnodion meddygon teulu ac ysbytai, ynghyd â data ar addysg ar gyfer pob plentyn sydd â ffeibrosis systig yng Nghymru, yn ogystal â grŵp rheoli wedi’u baru, sy’n cynnwys plant iach.