TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae’r prosiect hwn yn cysylltu data mwtaniad genetig o gleifion ag epilepsi myoclonig ifanc (juvenile myoclonic epilepsy – JME) â’u cofnodion gofal iechyd arferol ym Manc Data SAIL.
Mae Grŵp Ymchwil Niwroleg Abertawe wedi casglu data genetig o gleifion epilepsi yng Nghymru ers dros ddegawd ac mae ganddynt enw da am ymchwilio i iechyd y boblogaeth ac iechyd genetig.
Bydd gan bob claf 30-40,000 o fwtaniadau, ac efallai y bydd rhai ohonynt yn gysylltiedig ag ymateb i gyffuriau a chydafiachedd cyffredin o fewn JME.
Ein nod yw dadansoddi’r data genetig gan gyfeirio at sut mae’r cleifion hyn yn goddef cyffuriau penodol ac os yw rhai mwtaniadau o fewn syndrome JME yn cydberthyn i rai cleifion yn dioddef symptomau fel meigryn cronig, problemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu.