TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae MytHICAL yn rhaglen o brosiectau ymchwil gwybodeg iechyd meddwl archwiliadol manwl.
Rydym yn plethu gyda’r prosiect Llwyfan Data’r Glasoed, a ariennir gan yr elusen ymchwil iechyd meddwl, MQ, ac rydym yn manteisio ar fynediad i setiau data amrywiol sydd newydd eu cysylltu o fewn y llwyfan.
Ein nod yw canfod atebion i gwestiynau cymhleth am yr hyn sy’n dylanwadu ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc – gwybodaeth fydd yn gwneud gwahaniaeth i sut mae pobl yn cael eu helpu yn y dyfodol. Mae cyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol wedi’n galluogi i fynd gam ymhellach trwy ymchwilio i sawl maes hanfodol.
Rydym yn defnyddio Llwyfan Data’r Glasoed i gynnal ein hastudiaethau er mwyn mynd i’r afael â heriau allweddol gwybodeg iechyd meddwl. Byddwn yn ymchwilio i’r sefyllfaoedd y mae plant a phobl ifanc yn darganfod eu hunain ynddynt a allai ddylanwadu ar eu hiechyd meddwl, gan ddefnyddio data electronig i ddeall yr achosion yn well.
Rydym yn ymchwilio i effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ar sut mae iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn datblygu. Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yw profiadau sydd o bosibl yn achosi straen neu drawma, fel cam-drin, esgeulustod neu gael eich magu gydag un neu fwy o rieni gyda’u problemau iechyd meddwl eu hunain.
Mae ein hastudiaethau addysg yn ystyried a oes cyfleoedd i amlygu plant sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl trwy eu lefelau cyrhaeddiad ar gerrig milltir addysg allweddol.
Rydym yn gobeithio y gallai dysgu mwy am y wybodaeth a gedwir yn y setiau data presennol, a’u cysylltu am y tro cyntaf, lywio’r cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc yn y dyfodol yr ydym yn gwybod eu bod mewn perygl.