TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae cofnodion manylion galwadau yn cael eu casglu gan weithredwyr rhwydweithiau symudol wrth ddarparu gwasanaethau ac maen nhw’n cael eu defnyddio fwyfwy mewn ymchwil iechyd.
Rydym yn gwybod bod angen gwneud gwaith er mwyn dangos y gellir defnyddio cofnodion manylion galwadau mewn fframwaith moesegol sy’n dderbyniol yn gymdeithasol. Aeth MORPHeD ati i adolygu’r llenyddiaeth ymchwil gyhoeddedig er mwyn amlygu trefniadau a heriau llywodraethu gwybodaeth a chyfleoedd posibl i ddefnyddio mwy o’r elfen leoliad mewn cofnodion manylion galwadau wrth gynnal ymchwil iechyd.
Cynhaliom dri gweithdy er mwyn cael barn y cyhoedd ynghylch defnyddio cofnodion manylion galwadau ar gyfer ymchwil iechyd. Creom senarios defnyddio data cofnodion manylion galwadau mewn ymchwil iechyd er mwyn ystyried y risg a rheolaethau lliniaru. Yna, casglom y canfyddiadau ynghyd ar gefnlen o ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol.
Mae ein hymchwil wedi arwain at wneud argymhellion ar gyfer fframwaith moesegol i ddefnyddio lleoliadau cofnodion manylion galwadau mewn ymchwil iechyd.
Mae’r rhain yn cynnwys yr anghenion canlynol:
- mwy o dryloywder,
- rhagor o atebolrwydd,
- ymgorffori barn y cyhoedd.