TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae plant i rieni ag iselder mewn perygl o ganlyniadau iechyd ac addysg isel.
Bydd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i’r mater er mwyn archwilio beth yw’r rhesymau dros amrywiadau yng nghanlyniadau iechyd meddwl, iechyd yn gyffredinol a chyrhaeddiad plant sydd â rhieni isel eu hysbryd.
Ein nod yw cysylltu gyda dwy astudiaeth arall:
-
-
- Carfan hydredol lle caiff 337 o blant a’u rhieni eu recriwtio o ofal sylfaenol, gyda rhiant sy’n dioddef o anhwylder iselder mawr;
- Rhwydwaith ysgolion cynradd – HAPPEN, yn archwilio beth yw’r cysylltiad rhwng ymddygiadau iechyd eraill, lles hunangofnodedig ac iselder.
-
Byddwn yn creu e-garfan gan ddefnyddio data cyswllt arferol er mwyn archwilio’r cwestiynau ymchwil canlynol:
-
-
- Beth yw’r cysylltiadau rhwng iselder mewn mamau ac amrywiaeth o ganlyniadau iechyd, addysg ac iechyd meddwl ymysg plant?
- Pa effaith gaiff amseru a chronigedd iselder y fam ar ddatblygiad plant (cynenedigol ac ar ôl cael eu geni)?
-