Professor Shantini Paranjothy & Dr Lisa Hurt – Prifysgol Caerdydd
Yr Her
Fe ŵyr pawb am fuddion bwydo ar y fron ar gyfer iechyd babanod a mamau. Fodd bynnag, yn y DU, er bod 81% o fenywod yn dechrau bwydo ar y fron, mae llai na hanner ohonynt yn parhau y tu hwnt i 6 wythnos, ac 1% yn unig sy’n bodloni argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd, sef bwydo ar y fron yn unig am 6 mis.
Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos bod mamau Prydeinig gwyn ifanc, o statws economaidd-gymdeithasol is, yn llai tebygol o ddechrau bwydo ar y fron neu barhau y tu hwnt i 6 wythnos. Mae cefnogaeth broffesiynol ar gyfer bwydo ar y fron ar gael yn eang ledled y DU, ond mae angen ymagweddau newydd ar frys i gynorthwyo menywod sydd â’r risg mwyaf o beidio â pharhau i fwydo ar y fron.
Mae ymchwil yn dangos bod gostyngiad cyflym fel arfer mewn cyfraddau bwydo ar y fron, yn ystod y cyfnod yn syth ar ôl geni. Ni ŵyr a all cymorth cyfeillion yn ystod y cyfnod hwn gynyddu’r cyfnod y byddant yn bwydo ar y fron ai peidio. Darperir cymorth cyfeillion bwydo ar y fron gan fenywod o’r gymuned sydd â phrofiad o fwydo ar y fron ac efallai eu bod nhw’n dod o gefndir tebyg i’r menywod y maen nhw’n eu cynorthwyo. O gymharu â gweithwyr iechyd proffesiynol, gall cyfeillion cefnogol fod yn haws mynd atynt, a darparu model rôl y gall mamau uniaethu ag e, a chael profiad uniongyrchol o heriau bwydo ar y fron.

Yr Ymchwil
Nod cyntaf yr astudiaeth oedd datblygu cyswllt cynnar o ran ymyriad cymorth cyfeillion bwydo ar y fron. Diben yr ymyriad, o’r enw ‘Mam-Kind’, oedd ystyried defnyddio ymagwedd gyfweld ysgogiadol. Mae’r ymagwedd hon yn fath o gynghori sy’n cynorthwyo pobl i newid eu hymddygiad trwy archwilio eu pryderon a’u cynorthwyo i osod eu nodau eu hunain. Roedd y tîm ymchwil eisiau gweld a oedd hi’n bosibl helpu menywod i fwydo ar y bron yn hwy trwy ddefnyddio cyfeillion wedi’u hyfforddi mewn cyfweld ysgogiadol.
Yr ail nod oedd cyflawni astudiaeth dichonoldeb i asesu a fyddai modd cyflwyno ‘Mam-Kind’ i fenywod sy’n byw mewn ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol ai peidio. Mae astudiaethau blaenorol o effeithlonrwydd cymorth cyfeillion bwydo ar y fron yn y DU wedi amlygu problemau gyda nifer isel yn derbyn ac yn parhau â’r ymyriad.
Cynhaliwyd yr astudiaeth o fewn gwasanaethau mamolaeth cymunedol mewn tair ardal â lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol, a chyfraddau isel o ran dechrau bwydo ar y fron, yng Nghymru a Lloegr. Roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr (94%) yn wyn, yn gweithio, a rhwng 19 a 41 oed. Roedd yr ymyriad ‘Mam-Kind’ yn boblogaidd, gyda 75% ohonynt yn cymryd rhan.
Roedd yr ymyriad ‘Mam-Kind’ yn cynnwys cyswllt wyneb yn wyneb 48 awr ar ôl geni, a chymorth cyfaill un i un gan gyfaill Mam-Kind am bythefnos, a chyswllt dan arweiniad mam i ddilyn am 2-6 wythnos arall. Cofnododd yr astudiaeth ddata ar:
- Recriwtio a chadw cyfeillion Mam-Kind
- Nifer y cyfranogwyr a wnaeth dderbyn cyfaill Mam-Kind
- Ymarferoldeb cyflwyno Mam-Kind
- Derbynioldeb Mam-Kind i famau, cyfeillion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Y Canlyniadau
Cyn cynnal prawf mwy o ‘Mam-Kind’, roedd y tîm ymchwil eisiau gweld a oedd yr ymyriad yn dderbyniol i fenywod ac yn ymarferol i’w gyflwyno. Cyflwynodd wyth cyfaill Mam-Kind i 70 o fenywod, o dair ardal â lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol a beichiogrwydd yn yr arddegau, a chyfraddau isel o fwydo ar y fron. Fe wnaeth y tîm gyfweld mamau, cyfeillion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gael eu safbwyntiau. Adroddodd y mamau fod y cyfeillion yn darparu sicrwydd, nad oeddent yn barnu, a’i bod hi’n hawdd cysylltu â nhw. Fodd bynnag, adroddodd y cyfeillion ei bod hi weithiau’n anodd defnyddio eu sgiliau ysgogiadol wrth ddarparu cymorth gyda bwydo ar y fron.
Defnyddiwyd y canlyniadau a’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth dichonoldeb i wneud gwelliannau i hyfforddiant a chynnwys yr ymyriad ‘Mam-Kind’.
Yr Effaith
Dangosodd yr astudiaeth dichonoldeb fod yr ymyriad ‘Mam-Kind’ yn dderbyniol ac yn ymarferol i’w gyflwyno o fewn gwasanaethau mamolaeth y GIG, a dylid ei brofi ar gyfer effeithiolrwydd mewn prawf aml-ganolfan mwy. Byddai prawf mwy yn archwilio a darparu tystiolaeth fwy cadarn i ddangos a yw ‘Mam-Kind’ yn ffordd effeithiol i gynorthwyo a helpu menywod i barhau i fwydo ar y fron yn hwy.
Amlygodd yr astudiaeth ymhellach yr angen i gryfhau strategaethau ar gyfer hysbysu am enedigaethau a chadw cyfranogwyr, a darparodd ychydig o fewnwelediadau ar sut gellid cyflawni hyn mewn prawf llawn.