Dan arweiniad Ysgol Feddygol Prifysgol Bryste mewn cydweithrediad â sefydliadau partner gan gynnwys Prifysgol Caerdydd
Yr Her
Gall ymddygiad risg, megis ysmygu a defnyddio cyffuriau, fynd law yn llaw yn ystod blynyddoedd yr arddegau, gan arwain at broblemau a chlefydau’n hwyrach mewn bywyd.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod pa ymyriad sy’n effeithiol wrth atal ymddygiadau risgiau lluosog ymhlith plant a phobl ifanc.

Yr Ymchwil
Dadansoddodd adolygiad systematig gan Cochrane, dan arweiniad Ysgol Feddygol Prifysgol Bryste mewn cydweithrediad â sefydliadau partner gan gynnwys DECIPHer – Canolfan Ymchwil Treialon (Prifysgol Caerdydd), astudiaethau presennol a oedd wedi gwerthuso ffyrdd o atal neu leihau cymryd rhan mewn un ymddygiad risg neu fwy ymhlith pobl ifanc rhwng 8 a 25 oed.
Ar y cyfan, roedd 70 o astudiaethau’n gymwys i’w cynnwys yn yr adolygiad hwn. Ar gyfartaledd, roedd yr astudiaethau’n archwilio effeithiau ymyriadau ar bedwar ymddygiad, yn bennaf alcohol, y defnydd o dybaco, y defnydd o gyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhannodd yr ymchwilwyr yr astudiaethau hyn yn dri grŵp: astudiaethau unigol, fel teulu ac fel ysgol.
Y Canlyniadau
Awgrymodd canfyddiadau’r tîm mai ymyriadau cyffredinol yn yr ysgol, a gynigir i bob plentyn, oedd y ffordd fwyaf effeithiol o atal ymddygiad risgiau lluosog, megis y defnydd o dybaco, y defnydd o alcohol, y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc. Ni chanfu ymchwilwyr dystiolaeth gref o fuddion ymyriadau i deuluoedd nac unigolion.
Nododd y tîm ymchwil yr angen am adrodd mwy cyson a’r angen am sylfaen dystiolaeth gadarn o ansawdd gwell yn y maes hwn.
Effaith
Mae’r adolygiad hwn yn gam pwysig ymlaen er mwyn deall ymddygiad risgiau lluosog ymhlith pobl ifanc ac mae wedi darparu gwaelodlin ar gyfer gwaith pellach ar ddylunio ymyriadau tebyg yn y maes hwn.
Darllenwch y cyhoeddiad ymchwil llawn ma: //://www.cochranelibrary.com/cdsr/doi/10.1002/14651858.CD009927.pub2/full