Sefydliad
Prifysgol Caerdydd (Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd – DECIPHER)
Cyswllt Allweddol
Dr Jemma Hawkins
Ebost
Thema’r Ymchwil
Gweithgareddau corffol ymysg oedolion
Ariennir Gan
Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Hyd y prosiect
28 mis


Nod y Prosiect
Mae’r cynnydd ym mhoblogrwydd technolegau newydd fel mesurwyr gweithgareddau corfforol yn darparu cyfle i wella darpariaeth gweithgareddau ac ymyriadau corfforol. Mae technolegau o’r fath yn hwyluso adborth aml ac awtomatig mewn perthynas ag anelu at nodau penodol sydd o bosibl yn cynorthwyo cynnydd mewn gweithgareddau corfforol. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod sut i ddefnyddio’r technolegau newydd hyn i wella effeithiolrwydd yr ymyriadau corfforol hyn. Yn ogystal, nid oes llawer o wybodaeth am dderbynioldeb y technolegau hyn o ran atgyfeirio poblogaethau.
Nod yr astudiaeth hon yw asesu dichonoldeb a derbynioldeb defnyddio mesurwyr gweithgareddau corfforol fel rhan o gynllun atgyfeirio ymarfer corff cyfredol i hyrwyddo cynnal gweithgareddau corfforol.
Trosolwg o’r Prosiect
Mae’r astudiaeth yn archwilio derbynioldeb a dichonoldeb cyflwyno dyfeisiau mesur gweithgaredd, ar y cyd â system gymorth ar y we, fel rhan o Gynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS) Cymru.
Cysylltir lefelau isel o weithgarwch corfforol gyda chynnydd o ran y risg o ddioddef clefydau cronig, yn ogystal â lles seicolegol gwaeth. Ar hyn o bryd, nid yw’r rhan fwyaf o oedolion yng Nghymru yn diwallu’r argymhellion iechyd cyhoeddus cysylltiedig â gweithgareddau corfforol. Mae ymyriadau i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol unigolion, fel mentrau atgyfeirio ymarfer corff, wedi profi llwyddiant cymysg hyd yn hyn, ac yn aml wedi arddangos yr effeithiau yn y tymor byr yn unig.
Bydd yr astudiaeth yn gwella ein dealltwriaeth o sut i ymgorffori technolegau o’r fath fel rhan o raglenni ymarfer corff cyfredol, ac yn darparu asesiad o dderbynioldeb a dichonoldeb er mwyn llywio penderfyniadau ar y ffordd y dylem fynd ati i gynnal prawf llawn er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd yr ymyriad.