Sefydliad
Prifysgol Bangor (partner)
Dan arweiniad Judith Stone, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Carolyn Wallace (Prifysgol De Cymru a Chanolfan PRIME Cymru)
Cyswllt Allweddol
Soo Vinnicombe
E-bost
Thema’r Ymchwil
Iechyd y Boblogaeth, Gofal Cymdeithasol
Ariennir Gan
Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru
Hyd y Prosiect
1 flwyddyn (1 Ebrill 2018 – 31 Mawrth 2019)

Nod y Prosiect
Nod y rhwydwaith yw adeiladu’r dystiolaeth hanfodol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Ffordd o gysylltu pobl â chymorth anfeddygol, yn y gymuned, yw presgripsiynu cymdeithasol.
Dyma’i amcanion:
- Datblygu a chytuno trwy gonsensws ar flaenoriaethau ymchwil ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.
- Hybu cysylltiadau rhwng ysgolheigion, ymarferwyr (sy’n rhannu diddordebau cyffredin ym maes presgripsiynu cymdeithasol) a rhanddeiliaid eraill i gefnogi ceisiadau am grantiau ymchwil a gwerthuso a gynhyrchir ar y cyd, yn unol â’r blaenoriaethau ymchwil.
- Hybu a datblygu trafodaeth feirniadol am flaenoriaethau ymchwil presgripsiynu cymdeithasol trwy adeiladu rhwydwaith rhithwir sydd wedi’i gysylltu trwy’r e-bost a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.
- Archwilio’r ffordd orau i ni werthuso presgripsiynu cymdeithasol.
- Cysylltu pobl leol (ysgolheigion, ymarferwyr, aelodau’r cyhoedd) a sefydliadau er mwyn annog ymgysylltu cymunedol a chyd-gynhyrchu wrth ddatblygu ymchwil ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.
- Adeiladu adnodd ar y we ac adnoddau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol i hybu rhwydwaith ymchwil presgripsiynu cymdeithasol.
- Cysylltu â rhwydweithiau presgripsiynu cymdeithasol y tu allan i Gymru i gyfnewid profiadau a chydweithio ar syniadau ymchwil newydd.
Trosolwg o’r Prosiect
Mae angen Rhwydwaith Ymchwil Cymru ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol er mwyn cynnig cyfeiriad ymchwil pendant ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei roi ar waith yn helaeth gyda chefnogaeth arian cyhoeddus, er nad oes unrhyw gytundebau clir ar ei ddiffiniad ac nid oes unrhyw gwestiynau p’un a yw’n fuddiol, yn effeithiol ac yn cynnig gwerth am arian.
Mae unigolion a sefydliadau o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i ddatblygu cynnig ar gyfer creu rhwydwaith ymchwil cynaliadwy i adeiladu’r dystiolaeth hanfodol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Bydd ei aelodaeth yn agored i unigolion a grwpiau â buddiant a bydd yn cynnwys aelodau o’r trydydd sector, addysg uwch (ysgolheigion), sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol statudol (e.e. ymarferwyr, comisiynwyr), aelodau’r cyhoedd, y sector annibynnol ac aelodau diwydiant.
Mae’r cynnig yn cynnwys digwyddiad undydd, creu consensws, yng Nghaerdydd, a fydd yn cynnwys Techneg Grŵp Enwol (y bore), gweithdai yn arddull ‘World Café’ (y prynhawn) a holiadur i gyfanswm o 80 o bobl (digwyddiad rhannol agored/â gwahoddiad) yn y lle cyntaf i ddatblygu’r blaenoriaethau ymchwil a chynllun gweithredu. Wedi hynny, bydd 3 digwyddiad rhanbarthol, hanner diwrnod, ym Mangor, Rhyl ac Abertawe ar gyfer 25 o bobl yr un er mwyn rhoi’r blaenoriaethau ymchwil ar waith, meithrin cysylltiadau ymchwil a cheisiadau grant, datblygu’r rhwydwaith ymhellach ac ychwanegu at y wefan ymchwil.
Mae manteision y cynnig hwn yn cynnwys datblygu rhaglen ymchwil gynhwysol gydag unigolion, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan weithio yn ôl seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd hyn yn arwain at ddatblygu rhestr o dermau ymchwil, ceisiadau ymchwil o ansawdd da a gwell cyfleoedd am awduraeth. Bydd yn annog meithrin doniau ymchwil trwy gynyddu proffil ymchwil i bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, gan ddarparu amgylchedd cefnogol i ddatblygu hyder ymchwilwyr. Bydd y rhwydwaith ymchwil yn cael effaith ar y gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol presennol a’r rhai sy’n datblygu trwy well cyfathrebu, gan adeiladu tystiolaeth ynghylch deilliannau unigol a chymunedol, cyfalaf cymdeithasol a gwerth am arian.