Roxanne Cooksey, yr Athro Sinead Brophy, Jonathan Kennedy, Helen Davies, Mark Atkinson, Muhammad Jami Husain, Ceri Phillips, Mike Gravenor, Shang-ming Zhou, Elizabeth Irvine, Antonio Sanchez, Grant Pointer, Claire Burrows – Prifysgol Abertawe; yr Athro Ernest Choy – Prifysgol Caerdydd; Debbie Cook – y Gymdeithas Sbondylitis Ymasiol Genedlaethol; Muhhammad Azizur Rahman – y Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau; Steven Macey – ASH Cymru; Stefan Sibert – Prifysgol Glasgow
Yr Her
Sbondylitis Ymasiol (SY) yw’r ail fath mwyaf cyffredin o arthritis llidiol ar ôl arthritis gwynegol. Fodd bynnag, yn wahanol i arthritis gwynegol, mae SY yn dechrau yn ystod blynyddoedd yr arddegau, fel arfer, ac yn fwy cyffredin ymhlith dynion na menywod. Gan fod y cyflwr yn dechrau’n gynnar mewn bywyd, gall gyfyngu ar ragolygon addysg, cyflogaeth a theuluol. Gall y llid sy’n gysylltiedig â’r cyflwr achosi i’r asgwrn cefn asio’n barhaol, gan leihau symudedd ac ansawdd bywyd yr unigolyn yn sylweddol. Yn aml, mae pobl a chanddynt SY yn byw gyda llawer o boen, anystwythder a blinder. Gall effeithiau’r cyflwr amrywio’n fawr o un unigolyn i’r llall, sy’n ei gwneud hi’n anodd rhagfynegi pwy fydd yn dioddef fwyaf o’r cyflwr.
Mae’n bwysig bod unigolion a chanddynt SY yn cael eu trin gyda chyffuriau effeithiol yn gynnar, er mwyn osgoi niwed ffurfiannol a helpu i osgoi symptomau difrifol y clefyd. Fodd bynnag, mae risgiau iechyd yn gysylltiedig â’r cyffuriau a ddefnyddir i drin SY ac maen nhw’n ddrud hefyd, felly mae’n bwysig bod pobl y mae gwir angen y meddyginiaethau hyn arnynt yn cael eu hamlygu ac yn derbyn y cyffuriau’n gynnar yn natblygiad eu cyflwr.

Yr Ymchwil
Roedd yr ymchwil yn cysylltu data iechyd, fel cofnodion ymarfer cyffredinol ac ysbyty a ddelir yn y gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), nad yw’n enwi unigolion. Amlygwyd cyfanswm o 3630 o bobl a chanddynt SY. Defnyddiwyd y data hwn i ymchwilio i unrhyw afiechydon eraill yr oedd pobl ag SY yn dioddef ohonynt, o bosibl, pa mor aml yr oedd pobl ag SY yn ymweld â’u meddyg a’r feddyginiaeth a ragnodwyd iddynt.
Yn ogystal, cwblhaodd dros 500 o unigolion a chanddynt SY holiaduron bob 3 mis am 2 flynedd, a helpodd i wella’r wybodaeth. Roedd yr holiaduron yn holi ynghylch difrifoldeb y clefyd, pyliau o’r clefyd, gallu gweithredol, gweithgarwch corfforol, statws gwaith a’r gost sy’n gysylltiedig â’r cyflwr.
Y Canlyniadau
Canfuwyd bod canlyniadau pobl a oedd yn dioddef pyliau difrifol o’r clefyd yn waeth o ran gallu gweithredol, difrifoldeb y clefyd, iechyd meddwl a chyflogaeth o’u cymharu ag unigolion nad oeddent yn cael pyliau difrifol.
Amcangyfrifodd yr astudiaeth fod SY yn costio oddeutu £20,000 fesul claf, bob blwyddyn. Roedd y rhan fwyaf o gost SY yn deillio o nam gweithredol a cholli gwaith. Er mwyn gwella gallu gweithredol, canfuwyd bod ymarfer corff yn helpu, yn enwedig i bobl a oedd yn dioddef yn wael o’r clefyd. Felly, gall annog unigolion a chanddynt SY i wneud ymarfer corff helpu i wella ansawdd bywyd cleifion a lleihau’r gost sy’n gysylltiedig â’r cyflwr.
Mae’r canfyddiadau cynnar yn dangos bod dulliau lleihau straen seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBSR) yn ddefnyddiol wrth leihau gorbryder ac iselder a hefyd wrth leihau nifer yr ymweliadau â’r meddyg. Profodd ddulliau MBSR yn strategaeth gost-effeithiol ar gyfer rheoli’r clefyd, a gallant rymuso cleifion SY i fyw yn well â’u cyflwr.
Yr Effaith
Mae gallu adnabod pobl y bydd SY yn cael effaith fwy arnynt yn gynnar, trwy ddefnyddio pyliau difrifol cynnar fel arwydd, er enghraifft, yn golygu y gellir amlygu unigolion fel ymgeiswyr ar gyfer meddyginiaethau drud. Yn ogystal, mae’n bwysig gwybod gwir gost cyflyrau fel y gellir gwneud cyfrifiadau cost a budd cywir a gwella’r cyfleoedd i’r rhai y mae arnynt angen meddyginiaethau i gael gafael arnynt. Mae’r astudiaeth hon wedi cynhyrchu’r asesiad mwyaf cynhwysfawr o wir gost SY hyd yma.
Mae’r ymchwil wedi cael ei dyfynnu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, y Gymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg a’r Mesurau Canlyniadau Rhewmatoleg.
Mae rhagor o waith yn cael ei wneud i wella dulliau canfod SY yn gynnar yn natblygiad y cyflwr. Yn ogystal, mae cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar a ddarperir trwy’r rhyngrwyd, er mwyn cyrraedd pobl sy’n ei chael hi’n anodd dod i ddosbarth oherwydd problemau symudedd neu drafnidiaeth, yn parhau i asesu gwir botensial MBSR mewn perthynas ag SY.