Sefydliad
Prifysgol Caerdydd
Cyswllt Allweddol
Yr Athro Simon Murphy
Thema’r Ymchwil
Iechyd, Lles, Ysgolion
Ariennir Gan
Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Hyd y Prosiect
Parhaus

Nod y Prosiect
Mae Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol (SHRN) yn dod ag ysgolion uwchradd ac ymchwilwyr academaidd, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr, o faes iechyd, addysg a gofal cymdeithasol at ei gilydd i wella iechyd a lles pobl ifanc mewn ysgolion. Dyma bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), Ymchwil Canser y DU a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru. Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), Prifysgol Caerdydd, sy’n arwain y gwaith.
Trosolwg o’r Prosiect
Mae SHRN yn anelu at wella iechyd a lles pobl ifanc trwy:
- Ddarparu data iechyd a lles cadarn i ysgolion a rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol;
- Gweithio gyda gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i gyd-gynhyrchu gwaith ymchwil iechyd a lles seiliedig ar ysgolion o ansawdd da i Gymru;
- Helpu ysgolion a’r rheiny sy’n cefnogi ysgolion i ddeall tystiolaeth ymchwil iechyd a sut y gellir ei defnyddio mewn ysgolion.
Lansiwyd SHRN mewn 69 o ysgolion yn 2013 gyda chymorth ariannol y Cyngor Ymchwil Meddygol. Yn 2015/16, gyda chymorth ariannol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ymunodd hanner ysgolion Cymru â’r fenter (115). Yn 2017, roedd y cyfle i ymuno ar agor i bob ysgol uwchradd ac ysgol ganol, gyda phob ysgol uwchradd brif ffrwd yng Nghymru’n dod yn ysgolion rhwydwaith.
Mae ysgolion rhwydwaith yn llenwi Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr yn electronig bob dwy flynedd. Mae’r arolwg yn seiliedig ar Arolwg Ymddygiad Iechyd Plant Oed Ysgol (HBSC) cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, sy’n galluogi’r arolygon i gael eu hintegreiddio bob pedair blynedd. Yn ogystal â’r arolwg, dosbarthir Holiadur Amgylchedd Ysgol sy’n galluogi’r rhwydwaith i archwilio’r berthynas rhwng polisïau ac arferion ysgol ac iechyd y myfyrwyr. Datblygir cwestiynau mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol yr ysgolion, yr ICC a Llywodraeth Cymru. Mae’r arolygon yn darparu seilwaith hyblyg ac ymatebol i gasglu data ar arferion ysgolion, materion sy’n dod i’r amlwg a materion sy’n berthnasol i bolisi, ac yn darparu seilwaith cost-effeithiol ar gyfer gweithredu arolygon seiliedig ar ysgol, astudiaethau ymchwil ac arbrofion naturiol cysylltiedig â pholisïau newydd.
Dilynwch SHRN ar Twitter