TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae strôc yn ddigwyddiad difrifol sy’n arwain at ganlyniadau clinigol, cymdeithasol ac economaidd pwysig ar gyfer y claf, ei deulu, y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a’r gymuned ehangach. Mae Ffibriliad Atrïaidd yn annormaledd cyffredin yn rhythm y galon sy’n gysylltiedig â risg tua phum gwaith yn uwch o gael strôc a dwywaith cymaint o risg o farwolaeth o gymharu â’r rheiny sydd heb ffibriliad atrïaidd.
Mae gwrth-geulo’n lleihau’r risg uchel o strôc ymysg cleifion â ffibriliad atrïaidd. Defnyddiom gofnodion cyswllt y cleifion er mwyn deall pa mor agos y mae gwasanaethau’n dilyn canllawiau clinigol priodol ar gyfer atal strôc. Rydym ni wedi datblygu algorithmau i fonitro statws gwrth-geulo’r cleifion a’u sgoriau risg strôc ar sail cofnodion iechyd electronig er mwyn creu model rhagweld dynamig ar gyfer gwerthuso effaith triniaeth gwrth-geulo ar ganlyniadau clinigol ar lefel yr unigolyn ac ar lefel y boblogaeth.