TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae Cronfa Ddata Gwybodaeth am Hunanladdiad-Cymru (SID-Cymru) yn ymchwilio i ffactorau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad, sef problem iechyd cyhoeddus byd-eang y gellir ei atal, o bosibl.
Mae potensial enfawr i gysylltu cofnodion data’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn ddienw ar gyfer yr un unigolyn ar draws gwahanol wasanaethau a dros amser wrth ymchwilio i hunanladdiad.
Mae ein cronfa ddata’n cadw gwybodaeth am hanes iechyd blaenorol, natur y cysylltiadau blaenorol â gwasanaethau ac amgylchiadau cymdeithasol ehangach pawb sy’n marw o hunanladdiad (sy’n hysbys ai peidio i wasanaethau iechyd meddwl) ym mhoblogaeth Cymru trwy Fanc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL).
Mae SID-Cymru’n cynnig cyfleoedd i ymchwilio i ffactorau risg a thueddiadau hunanladdiad, gan gynnwys:
-
-
- diagnosis o iselder mewn gofal sylfaenol;
- lefelau triniaeth gyda gwrth-iselyddion a thueddiadau yn y driniaeth honno dros amser;
- daearyddiaeth wledig a threfol;
- cyflawniad addysgol;
- lefelau salwch corfforol.
-
Hefyd, mae’n caniatáu ymchwilio i leoliadau a llwybrau gofal lle mae pobl mewn cysylltiad â gwasanaethau yn ystod y flwyddyn hyd at eu hunanladdiad.