Dr Catherine Verity Bennett – Prifysgol Caerdydd
Yr Her
Bob blwyddyn, mae mwy na 50,000 o blant yn y DU yn mynd i leoliadau gofal iechyd gyda llosgiadau. Er gwaethaf y nifer uchel o sgaldiadau o ddiodydd poeth y gellid eu hatal mewn plant o oedran cyn ysgol, prin yw’r ymchwil ar ymyriadau atal effeithiol ac mae angen difrifol i wella gwybodaeth cymorth cyntaf rhieni. Mae’r astudiaeth hon yn ymchwilio i ddichonoldeb ‘Te Diogel’, sef ymyriad arloesol ac aml-wynebog wedi’i seilio yn y gymuned a gyflwynir gan ymarferwyr y blynyddoedd cynnar.

Yr Ymchwil
Rhoddwyd ‘Te Diogel’ mewn lleoliadau gofal plant, aros a chwarae ac ymweliad cartref mewn ardaloedd o amddifadedd yn y DU. Defnyddiwyd ymagwedd dulliau cymysg, gan gynnwys holiaduron i rieni cyn ac yn dilyn ymyriad a grwpiau ffocws gyda rhieni ac ymarferwyr i brofi priodoledd, ymarferoldeb a gallu staff i gyflwyno’r ymyriad i rieni, yn ogystal ag effeithiolrwydd cyfyngedig.
Y Canlyniadau
Croesawyd deunydd, gweithgareddau a negeseuon ymyrryd yn dda, ac roedd rhieni ac ymarferwyr cymunedol yn eu deall. Dulliau cyfathrebu gweledol a rhyngweithiol lle nad oedd angen darllen o gwbl neu lawer oedd y mwyaf derbyniol. Cynyddodd gwybodaeth a dealltwriaeth rhieni o’r risg o sgaldiadau diodydd poeth a’r tebygrwydd a difrifoldeb anaf i blant yn dilyn yr ymyriad. Gwnaeth rhieni hefyd fagu’r hyder i gywiro ymddygiad eraill gartref a throsglwyddo negeseuon cymorth cyntaf.
Yr Effaith
Mae’r astudiaeth o ddichonoldeb hon yn gam ymlaen hollbwysig wrth ddatblygu model ymyriad i newid ymddygiad sy’n gadarn ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae gwaith wedi bod ar y gweill i fireinio deunyddiau’r ymyriad yn seiliedig ar welliannau a awgrymwyd gan rieni a’u profi’n ehangach mewn cymunedau ledled y DU. Caiff Te Diogel ei lansio ar draws cymunedau Cymru a Lloegr yn hydref 2019.
Am ragor o wybodaeth ac i gael gwybod rhagor am sut gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch â: Burnsresearch-admin@cardiff.ac.uk