TROSOLWG O’R PROSIECT
Dros y degawdau diwethaf, cymerwyd camau mawr ymlaen wrth ailddefnyddio data iechyd ar gyfer ymchwil.
Yn fwy diweddar, mae’r gwaith wedi bod yn canolbwyntio ar ddata gweinyddol ehangach. Ond rhaid mynd i’r afael â heriau sylweddol cyn y gallwn fanteisio i’r eithaf ar ddata gweinyddol ar gyfer ymchwil.
Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud, ond mae llawer o botensial ac awydd ar gyfer gwella ymhellach. Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio ymarfer da, rhwystrau ac atalfeydd yn ymwneud â defnyddio data gweinyddol yn effeithiol, a chael awgrymiadau ar sut i rannu’r pethau da, datrys y pethau gwael a gwella’r pethau lletchwith.
Gan ddefnyddio Ymchwil Data Gweinyddol (ADR UK), a ariennir gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel astudiaeth achos, cynhaliom arolwg ansoddol a ganolbwyntiodd ar y llwybr defnyddio data ar draws y rhwydwaith.
Rhannom ymatebion yr arolwg yn chwe thema:
-
-
- caffael data;
- prosesau cymeradwyo;
- rheolyddion ar fynediad a datgelu;
- data a metadata;
- cymorth ymchwilwyr;
- ailddefnyddio a chadw data.
-
Defnyddiom y wybodaeth wedi’i chyfuno o’r arolwg a gweithdy i lywio cyfres o 18 o argymhellion ar draws y chwe thema, a defnyddiwyd y rhain gan gyfarwyddwyr y Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol i ddatblygu cynllun gweithredu.