TROSOLWG O’R PROSIECT
Dechrau’n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae prosiect Dechrau’n Deg ADR Cymru yn datblygu’r gwaith gwerthuso blaenorol a wnaed gan ein tîm. Yn ystod ein gwaith cynnar, gwelwyd bod data cyswllt yn gallu rhoi cipolwg unigryw i’r effaith yr oedd cymryd rhan yn Dechrau’n Deg yn ei chael ar ganlyniadau iechyd ac addysg y plant oedd yn rhan ohono.
Trwy edrych ar ddata ymyrraeth Dechrau’n Deg o Awdurdodau Lleol ledled Cymru, a’i gysylltu – ynghyd â data ar dderbyniadau ysbytai, achosion o fynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys ac absenoldebau addysg – nod y prosiect yw rhoi darlun o ganlyniadau teuluoedd y mae eu plant yn gymwys am raglen Dechrau’n Deg o gymharu â’r rheiny sy’n byw y tu allan i’r ardaloedd sy’n gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg. Bydd cam nesaf y dadansoddi’n ystyried cyflawniad addysgol a lefelau ymgysylltu â rhaglen Dechrau’n Deg. Yn sgil yr amrywiaeth o feysydd polisi sydd ynghlwm â’r prosiect hwn, mae’r gwaith hwn yn torri ar draws sawl un o’r Rhaglenni Effaith Strategol a amlygwyd gan ADR Cymru.
Dan arweiniad ymchwilwyr academaidd ac ymchwilwyr Llywodraeth Cymru, mae’r prosiect hwn wedi dangos y cyfoeth o wybodaeth y gellir ei ennyn wrth gysylltu data o feysydd polisi a sefydliadau a fyddai wedi aros ar wahân fel arall. Mae’r prosiect wedi creu grŵp o randdeiliaid ymgysylltiedig, gyda chynrychiolwyr o’r chwe Awdurdod Lleol sydd ynghlwm yn y cynllun peilot. Mae’r grŵp wedi chwarae rôl allweddol wrth lywio cyfeiriad y prosiect, gan gynnwys dadansoddi sy’n seiliedig ar eu profiadau o gyflwyno’r rhaglen sy’n rhan sylweddol o gyfeiriad y prosiect.
Y bwriad yw cyhoeddi’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg ym mis Awst, a disgwylir rhagor o ganlyniadau ym mis Hydref. Rhagwelir y bydd canfyddiadau’r prosiect hwn yn helpu gwneuthurwyr polisi i werthuso effaith rhaglen Dechrau’n Deg a all lywio’r polisïau a’r cyfeiriad yn y dyfodol. Hefyd, bydd y canfyddiadau’n berthnasol i waith ymchwil arall sy’n gwerthuso mentrau mewn ardaloedd ac ymyriadau cynnar er mwyn mynd i’r afael â thlodi.