TROSOLWG O’R PROSIECT
Bydd y prosiect hwn yn archwilio prif benderfynyddion cyflawniad addysgol plant 11 oed a 14 oed.
Hefyd, byddwn yn astudio’r llwybrau ‘llwyddiant’ addysgol ar gyfer gwahanol grwpiau o blant gan edrych ar eu cefndir yn ogystal, ac unrhyw effaith y mae hyn yn ei chael ar eu profiadau addysgol.
Mae’r ymchwil blaenorol yng Nghymru gan ddefnyddio Astudiaeth Carfan y Mileniwm wedi dangos, er enghraifft, beth yw cyfyngiadau’r dangosydd prydau ysgol am ddim wrth amlygu ffactorau sy’n gysylltiedig â lefelau cyflawniad addysgol isel.
Roedd y dadansoddiad blaenorol hwnnw’n astudio cyflawniad addysgol hyd at saith oed yn unig (diwedd Cyfnod Allweddol 1). Rydym yn ymestyn y dadansoddiad hwn o tua 1,700 o ddisgyblion o Astudiaeth Carfan y Mileniwm yng Nghymru i astudio eu cynnydd addysgol a’u lefelau cyflawniad hyd at 14 oed (diwedd Cyfnod Allweddol 3).
Hefyd, byddwn yn cysylltu â data sy’n gysylltiedig ag iechyd (yn seiliedig ar gofnodion iechyd gweinyddol – data digwyddiadau meddygon teulu) er mwyn archwilio penderfynyddion cyflawniad addysgol ymhellach, a’r cysylltiad ag iechyd plant.