TROSOLWG O’R PROSIECT
Bydd y prosiect hwn yn archwilio’r ffactorau sy’n pennu dewisiadau addysg a gyrfa dysgwyr ôl-16 yng Nghymru.
Mae gennym ddau nod trosfwaol:
- Cynnal gwaith ymchwil gan ddefnyddio data gweinyddol cyswllt er mwyn archwilio pa mor effeithiol yw’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyrfa Cymru, yn enwedig problemau’n ymwneud â’i ddangosyddion perfformiad allweddol:
-
- Cynnydd parhaus pobl ifanc trwy eu haddysg ac i’r byd gwaith neu hyfforddiant/addysg bellach.
- Lleihau nifer y bobl ifanc sydd y tu allan i’r system addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
- Archwilio sut mae defnyddio data gweinyddol yn gallu esgor ar welliannau i brosesau a chynhyrchiant i Gyrfa Cymru, er enghraifft, cymryd camau dilynol gyda chleifion a sut gall canfyddiadau ymchwil lywio dethol a dyrannu adnoddau i wasanaethau cleientiaid yn y ffordd orau bosibl.
Yn benodol, ein nod yw datgelu problemau’n ymwneud â’r broses bontio rhwng yr ysgol a’r gwaith, a sut mae gwybodaeth, cyfarwyddyd, gwybodaeth am y farchnad lafur a gwasanaethau eraill sy’n debyg i rai Gyrfa Cymru’n helpu llywio’r broses bontio hon.
Bydd ein hymchwil yn archwilio:
-
- Mynediad cyfartal i sicrhau bod y rheiny sydd mewn angen yn derbyn gwasanaethau Gyrfa Cymru,
- Y dewisiadau addysg a wneir,
- Lefelau cyfranogiad a chadw mewn addysg ôl-orfodol,
- Disgwyliadau galwedigaethol,
- Effeithiau ymyriadau’r farchnad lafur.
Y bwriad yw bod ein hymchwil yn helpu gwneuthurwyr polisi ac ymchwilwyr addysg i ddeall y tirlun addysg uwch yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar gadw pobl ifanc mewn addysg ôl-16, derbyniadau prifysgol ac asesu cyfraniadau cyfarwyddyd gyrfa.