Sefydliad
Prifysgol Abertawe
Cyswllt Allweddol
Yr Athro Sinead Brophy
Yr Athro Ernest Choy
Thema’r Ymchwil
Llid y Cymalau

Ariennir Gan
NCPHWR, Pfizer, Novartis, Biogen, UCB, ARUK.
Hyd y Prosiect
4 blynedd
Nod y Prosiect
Asesu gwir effaith cyflyrau arthritig ar iechyd a chymdeithas. I wella diagnosis trwy amlygu symptomau cynnar, hyrwyddo iechyd a rheoli cyflyrau arthritig ac adnabod cleifion risg uchel yn gynnar.
Atal clefydon trwy adnabod effeithiau peryglon amgylcheddol, geneteg a ffactorau seico-gymdeithasol. Asesu effeithiolrwydd clinigol ac effeithiau iechyd economaidd triniaethau a strategaethau therapiwtig mewn lleoliad go iawn. Gwella diogelwch sy’n gysylltiedig â chyffuriau trwy amlygu sgil-effeithiau a chymhlethdodau ymysg poblogaethau mawr, go iawn, a dilyn llwybrau cleifion trwy’r system gofal iechyd. Yn olaf, gwella iechyd trwy amlygu ymyriadau addas a helpu i lywio polisïau a gwasanaethau iechyd er mwyn gwella iechyd cleifion.
Trosolwg o’r Prosiect
Mae Prosiect WHEAR yn defnyddio data iechyd a gesglir fel mater o drefn (trwy SAIL) i archwilio epidemioleg llid y cymalau a chlefydon cyhyrysgerbydol. Bydd y prosiect yn archwilio cyflwyno nodweddion cyflyrau arthritig cyn diagnosis llid y cymalau er mwyn helpu i ganfod y clefyd yn gynnar trwy ddefnyddio technegau dysgu peirianyddol. Adnabod ffactorau risg amgylcheddol, seico-gymdeithasol, dietegol ac etifeddol sy’n rhagdueddu unigolion i ddatblygu clefydau er mwyn sicrhau bod modd adnabod unigolion sydd mewn perygl uchel o ddatblygu cyflyrau o’r fath. Archwilio’r cyd-afiechydon sydd o bosibl yn bodoli gyda llid y cymalau, er enghraifft afiechydon cardiofasgwlaidd a chlefydon dermatoleg.
Asesu effeithiau byrdymor, canolig a hirdymor llid y cymalau ar farwoldeb, afiachusrwydd, swyddogaeth gorfforol, ansawdd bywyd ac effeithiau iechyd economaidd. Archwilio effaith cyflyrau cyhyrysgerbydol ac arthritig ar ddarparwyr gofal iechyd (derbyniadau ysbyty a chost triniaeth) a chymdeithas. Asesu effeithiolrwydd ac effeithiau negyddol triniaethau llid y cymalau, yn ogystal ag effeithiolrwydd strategaethau rheoli cyflyrau cyhyrysgerbydol presennol.
Dolenni at gyhoeddiadau WHEAR:
//://ijpds.org/article/view/86
//://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0140673616322735?via%3Dihub
http://ieeexplore.ieee.org/document/7380164/?reload=true
http://journals.plos.org/plosone/article?id=10.1371/journal.pone.0126105
//://academic.oup.com/rheumatology/article/54/9/1563/1826984
//://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0049017212002326?via%3Dihub
//://bmcmusculoskeletdisord.biomedcentral.com/articles/10.1186/1471-2474-14-163
//://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0049017212001667?via%3Dihub