

Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus a gydnabuwyd gan y Frenhines yn dweud bod ei anrhydedd yn adlewyrchu enw da Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe.
Penodwyd yr Athro Ronan Lyons yn OBE am ei wasanaethau i Ymchwil, Arloesi ac Iechyd Cyhoeddus.
Ac yntau’n Athro Clinigol Iechyd Cyhoeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn un o ddau gyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaethau, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnydd eilaidd gwybodaeth am iechyd i helpu i glustnodi a gwerthuso ymyriadau’r gwasanaeth iechyd ac ymyriadau eraill er mwyn gwella gwaith atal, gofal ac iacháu.
Fel Prif Ymchwilydd ar y cyd, a Chyd-gyfarwyddwr y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL (a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru), meddai: “Mae’r dyfarniad hwn yn destun balchder a phleser i mi.
“Heb os, mae’n adlewyrchu’r ffaith bod cyfraniad cymdeithasol yr ymchwil a wnaed gennym drwy ddefnyddio Banc Data SAIL yn cael ei werthfawrogi’n gyffredinol. Dyma gydnabyddiaeth wych o’n hymagwedd gwyddoniaeth tîm wych a’n mentrau cydweithredol cenedlaethol a rhyngwladol.”
Ac yntau’n feddyg iechyd cyhoeddus ac yn epidemiolegydd sydd wedi cael mwy na 30 o flynyddoedd o brofiad o feddygaeth glinigol, iechyd cyhoeddus a gwybodeg iechyd yn Iwerddon ac yn y DU, mae diddordeb parhaus yr Athro Lyons mewn atal, trin ac iacháu anafiadau yn deillio o weithio mewn adrannau achosion brys.
Ers dechrau’r pandemig, mae’r Athro Lyons a’r tîm wedi defnyddio gwersi’r data iechyd helaeth ym Manc Data SAIL i gefnogi llywodraethau – gan ddarparu gwybodaeth i Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, ac yn sgîl hynny SAGE (sef Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau) y DU. Mae eu gwaith hefyd wedi helpu’r GIG a chymunedau sy’n agored i niwed i fynd i’r afael ag argyfwng COVID-19, fel y gallant ddiogelu ac achub bywydau nawr yn y DU ac yn fyd-eang.
Ochr yn ochr ag arbenigwyr iechyd cyhoeddus eraill, siaradodd yr Athro Lyons â WalesOnline yn ddiweddar am botensial amrywiolyn presennol Omicron ar Gymru, yn seiliedig ar ddata yr amrywolion cryfaf a fu gynt, a bygythiadau feiral eraill at iechyd cyhoeddus;
“Mae ton Omicron yn parhau ac yn dal i gynyddu. Oherwydd ei lleoliad daearyddol; mae Cymru y tu ôl i Lundain o ran ymlediad y feirws. Byddwn yn gweld penllanw Omicron yn hwyrach nag yn Llundain, tra y gwelwn ei fod ar ei anterth yng ngogledd-orllewin Lloegr ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, dangosodd arolwg diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod gan 8% o’r boblogaeth Omicron yn ystod yr wythnos cyn y Flwyddyn Newydd.
“Mae’n gyffredin iawn ac yn cynyddu a disgwylir iddo gyrraedd penllanw yng nghanol neu ddiwedd mis Ionawr. Y cwestiwn yw: pa mor gyflym fydd y don yn gostegu. Erbyn diwedd mis Chwefror siŵr o fod, bydd y cyfraddau heintio lawer is nag y maen nhw nawr. Mae llawer o ansicrwydd ynghlych pa mor gyflym y bydd yn gostegu. Mae’n dibynnu ar ymddygiad pobl.”
Ychwanegodd yr Athro Lyons, “pan fo un feirws yn disodli un arall, mae’n mynd yn fwy trosglwyddadwy ond mae’n llai difrifol ac yn achosi llai o ddifrod. Bydd llawer llai o effaith ar y boblogaeth. Rydym hefyd wedi cyrraedd pwynt lle y bydd angen llai o ymyriadau i warchod y boblogaeth.”
“Os edrychwch chi nôl i gwpwl o fisoedd yn ôl, roedd nifer o fisoedd pan roedd hi’n teimlo ein bod ni bron wedi cyrraedd normalrwydd. Nid oedd Omicron yn bodoli ac roedd e’n syndod i ni gyd. Rydych yn disgwyl i un gyrraedd, yn enwedig pan fod rhannau mawr o’r byd heb gael eu brechu o hyd. Mae cyfran y boblogaeth sydd dan fygythiad yn codi.”
Yr Athro Lyons yw cyfarwyddwr safleoedd Cymru a Gogledd Iwerddon, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arweinydd Cenedlaethol dros Wella Iechyd Cyhoeddus gyda Health Data Research UK (HDR UK), sef buddsoddiad gwerth mwy na £50m gan gyllidwyr ymchwil yn y DU a arweinir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Ef hefyd yw Cyfarwyddwr Cysylltiol Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol), Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, Cyfarwyddwr Cysylltiol Porth Dementia y Cyngor Ymchwil Feddygol (DPUK) a Chyd-gyfarwyddwr technoleg datrysiadau data uwch SeRP (Secure eResearch Platform). Ar hyn o bryd, mae ganddo bortffolio o grantiau gwerth mwy na £45 miliwn.
Mae swyddi uwch eraill yn cynnwys: Athro Atodol ym Mhrifysgol Monash, Awstralia; Ymgynghorydd er Anrhydedd gydag Ymddiriedolaeth y GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru; a Chadeirydd yr Ymgais Gydweithredol Ryngwladol ar Ystadegau a Dulliau sy’n Ymwneud ag Anafiadau (US CDC).