

Roedd yn anrhydedd mawr i ni gael ymweliad gan Ian Diamond, Ystadegydd Gwladol y DU, yn adran Gwyddor Data Poblogaethau Prifysgol Abertawe ddydd Gwener 21 Hydref.

Yn ystod ei ymweliad, meddai’r Athro Syr Ian Diamond:
“Rydych chi’n gweithio mewn maes hynod bwysig. Rwy’n cofio meddwl flynyddoedd yn ôl, pe tasem ni ond yn gallu cysylltu data o ddisgyblaethau gwahanol, gallem ni ddechrau ateb cwestiynau pwysig iawn y gallent effeithio ar fywydau pobl.
Rwy’n eich annog i fod yn fentrus ac yn radicalaidd yn eich gwaith dadansoddi, oherwydd y gall eich gwaith chi wir newid bywydau pobl.”