

Mae’r astudiaeth ledled y DU, a gynhelir gan dîm o feddygon a gwyddonwyr a arweinir gan Brifysgol y Frenhines Mary yn Llundain, yn cael ei chefnogi yng Nghymru gan Gronfa Ddata SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Mae Cronfa Ddata SAIL yn adnodd data poblogaeth sy’n arwain y byd, y mae GIG Cymru’n ymddiried ynddo i storio data iechyd poblogaeth Cymru’n ddiogel, a gesglir yn rheolaidd gan feddygon ac ysbytai.

Meddai’r Athro Ronan Lyons o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sy’n arwain yr ymchwil yng Nghymru:
“Rydym wrth ein boddau bod pobl yng Nghymru’n cael y cyfle i gymryd rhan yn yr ymchwil newydd hon sy’n torri tir newydd. Bydd yn profi’n gyflym a all nifer o ymyriadau anfferyllol leihau nifer y bobl sy’n dioddef o heintiadau difrifol COVID19.”
Gofynnir i bobl o bob rhan o’r DU, ac o bob cefndir, wirfoddoli ar gyfer COVIDENCE UK drwy gofrestru a chwblhau holiadur ar-lein gyda manylion am eu ffordd o fyw a’u hiechyd. Rhaid i gyfranogwyr fod yn 16 oed neu’n hŷn.
Yna, cysylltir â chyfranogwyr bob mis i weld a ydynt wedi datblygu symptomau clefyd y coronafeirws, a gofyn rhai cwestiynau dilynol am eu hiechyd yn gyffredinol ac amgylchiadau cymdeithasol.
Nod yr astudiaeth yw recrwitio grŵp mor amrywiol â phosib o wirfoddolwyr, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi dioddef o COVID-19 neu yr amheuir eu bod wedi ei gael a’r rhai hynny sydd heb ei gael. Mae’r tîm hefyd am gynnwys cymysgedd o bobl gyda chyflyrau iechyd isorweddol fel diabetes, clefyd ar yr ysgyfaint, clefyd y galon a phwysau gwaed uchel a’r rhai heb unrhyw gyflyrau iechyd isorweddol.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn helpu gwyddonwyr i ddeall pam mae rhai pobl mewn mwy o risg nag eraill.
Mae arweinydd yr astudiaeth, Adrian Martineau, Athro Heintiadau ac Imiwnedd Resbiradol ym Mhrifysgol y Frenhines Mary yn Llundain yn esbonio:
“Rydym yn gwybod bod pobl â rhai cyflyrau meddygol â risg mwy o ddal y coronafeirws. Serch hynny, nid ydym yn gwybod pam. Ai oherwydd bod pobl â’r cyflyrau hyn yn tueddu i fod yn hŷn? A yw’n rhywbeth i wneud â’r cyflwr iechyd isorweddol ei hun? A allai meddyginiaethau penodol effeithio ar y risg? Neu a yw ffactorau ffordd o fyw fel ysmygu neu batrymau diet gwahanol sy’n tueddu i gyd-fynd â rhai o’r cyflyrau hyn yn bwysig? Gallai’r atebion i’r cwestiynau hyn ein helpu i lunio strategaethau newydd i leihau risg yr haint, wrth i ni aros am frechlyn effeithiol.”
Bydd y data a gedwir yng Nghronfa Ddata SAIL yn adnodd hynod ddefnyddiol yn yr astudiaeth. Mae ganddo’r gallu i gysylltu setiau gwahanol o ddata ynghyd h.y. cysylltu ymatebion arolwg COVIDENCE UK yng Nghymru â gwybodaeth iechyd bresennol sy’n cael ei chasglu’n rheolaidd gan y gwasanaethau iechyd.
Mae hyn yn hollbwysig i ddatgloi darganfyddiadau newydd am y pandemig a’i oblygiadau iechyd ehangach ar draws y boblogaeth.
Nod yr astudiaeth yw cyflawni pedwar prif nod:
- Dysgu mwy am y rhai mwyaf mewn perygl o gael haint y Coronafeirws o ran oedolion y DU.
- Darganfod pa mor gyflym y mae pobl yn gwella ar ôl cael y Coronafeirws, ac a oes cymhlethdodau hir dymor o ran y salwch hwn.
- Gwerthuso effaith haint y Coronafeirws ar les corfforol a meddyliol poblogaeth y DU.
- Creu cronfa ddata o bobl sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn nhreialon clinigol y dyfodol, a gwahodd pobl a ddewiswyd i gymryd rhan yn y treialon hynny.
Mae Cronfa Ddata SAIL ym Mhrifysgol Abertawe wedi dod yn adnodd pwysig wrth fynd i’r afael â Covid-19. Mae hefyd yn noddfa i filiynau o gofnodion data ar gyfer ap Astudiaeth Symptomau ZOE Covid-19, gyda’r bwriad o’n helpu i ddod allan o’r cyfyngiadau symud yn ddiogel.
Drwy gymryd rhan yn astudiaeth COVIDENCE UK, byddwch yn cyfrannu data ystyrlon a fydd yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer ymchwil wyddonol a threialon clinigol a fydd yn helpu meddygon a gwyddonwyr i fynd i’r afael ag effeithiau dybryd a hir dymor y feirws hwn yn awr a’r tu hwnt i’r achos presennol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, chwiliwch am @CovidenceUK, #COVIDENCEUK neu ewch i //://www.qmul.ac.uk/covidence/ .
GAN CHRIS ROBERTS, PRIFYSGOL ABERTAWE
Related News Article and Media Coverage
//://businessnewswales.com/swansea-scientists-call-for-public-help-with-covid-19-research/
Related Twitter Posts
//://twitter.com/PopDataSci_SU/status/1267774950150201346
//://twitter.com/PopDataSci_SU/status/1267758376676667392
//://twitter.com/PopDataSci_SU/status/1265574448289251328
//://twitter.com/PopDataSci_SU/status/1265574859985338368
//://twitter.com/PopDataSci_SU/status/1263027665201659905
//://twitter.com/PopDataSci_SU/status/1262682086709870593
SAIL Databank is one of the nine Centres of Excellence based in Population Data Science at Swansea University Medical School.
