

Mae’r International Journal of Population Data Science (IJPDS), a sefydlwyd yn 2017, yn gyfnodolyn arloesol, mynediad agored a adolygir gan gymheiriaid, sy’n cael ei gyhoeddi gan Brifysgol Abertawe. Mae’n cyhoeddi erthyglau am agweddau ar ymchwil, datblygu a gwerthuso sy’n ymwneud yn benodol â data am bobl a phoblogaethau.
Cawsom sgwrs gyda’r Prif Olygydd, Kerina Jones, Athro Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, i’w holi am yr hyn sydd gan y cyfnodolyn i’w gynnig.

Pam yr oedd yn bwysig creu cyfnodolyn arbennig ar gyfer Gwyddor Data Poblogaethau?
Roedd yn bwysig sefydlu’r cyfnodolyn er mwyn mynd i’r afael â her nad oedd neb wedi ymdrin â hi o’r blaen, sef ble oedd y lle gorau i gyhoeddi’r sbectrwm o waith sy’n cael ei wneud ym maes Gwyddor Data Poblogaethau. Doedd dim un fforwm amlwg i awduron ledaenu eu gwaith, felly roedd angen sefydlu’r sianel gyfathrebu ganolog hon.
Angen arall a nodwyd oedd yr anhawster o ran cyhoeddi erthyglau ‘ansafonol’, sef y rhai sydd y tu allan i gwmpas ymchwil draddodiadol. Mae’r IJPDS yn cynnwys amrywiaeth ehangach o fathau o erthygl, er mwyn gallu rhannu gwaith methodolegol a datblygu yn fwy effeithiol. Mae’n werth nodi hefyd nad yw’r IJPDS yn cyfyngu ar y math o lawysgrifau gellir eu cyflwyno – yn wahanol i lawer o gyfnodolion eraill – ac rydym yn croesawu amrywiaeth lawer ehangach o fathau o lawysgrif. Rydym yn gwerthfawrogi bod gwaith o safon – sy’n cyfrannu at ddatblygiad gwyddor data poblogaethau – yn gallu bod mewn llawer o fformatau gwahanol ac rydym yn croesawu hyn.
Beth sy’n denu awduron i gyhoeddi yn yr IJPDS?
Mae’r IJPDS yn wahanol i gyfnodolion eraill am ei fod yn blaenoriaethu awduron, gan roi awduron a darllenwyr wrth wraidd ein holl weithgarwch. Drwy ymchwil helaeth, daethom i’r casgliad yn gynnar mai cwmpas y cyfnodolyn, proffil y gynulleidfa a chyflymder cyhoeddi oedd y prif ffactorau o bwys i awduron wrth iddynt ddewis cyfnodolyn i gyhoeddi eu gwaith, ac rydym yn ymdrechu i fodloni pob un o’r meini prawf hyn.
Mae gan yr IJPDS gynulleidfa ryngwladol a sefydledig sy’n tyfu. Rydym yn cyhoeddi erthyglau o bob cwr o’r byd, mewn fformat mynediad agored, i gefnogi egwyddorion rhannu gwybodaeth a chyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosib. Mae gennyn dîm ardderchog o adolygwyr cymheiriaid rhyngwladol sy’n ymrwymedig i ddarparu adborth yn gyflym ar waith a gyflwynir, gan lynu wrth y safonau uchel rydym yn eu disgwyl, ac rydym yn gweithio’n ddiflino tuag at ennill Ffactor Effaith ar gyfer y cyfnodolyn.
Mae cyhoeddi mewn maes newydd, cyn i neb arall ei wneud, yn rhoi cyfle i awduron fod ar flaen y gad, arwain y ffordd drwy dorri tir newydd a gwneud enw iddyn nhw eu hunain. Dyma faes sy’n datblygu’n gyflym, sy’n gofyn am ymagweddau arloesol a meddwl yn greadigol, felly mae’n faes cyffrous sy’n rhoi cyfle i awduron wneud argraff go iawn, sy’n wych o ran cynnydd gyrfa.
Os ychwanegwch at hyn fwrdd golygyddol eithriadol o feddylwyr blaenllaw rhyngwladol ym maes Gwyddor Data Poblogaethau a phartneriaeth unigryw â’r International Population Data Linkage Network (IPDLN), mae’r IJPDS yn sianel gynyddol ddeniadol i ledaenu’r ymchwil ddiweddaraf.
Sut gall awduron gydweithio â’r IJPDS?
Mae Gwyddor Data Poblogaethau’n berthnasol i nifer o sectorau, gan gynnwys sefydliadau academaidd ac ymchwil, gofal iechyd ac ysbytai, llywodraeth, y sector preifat, gwyddorau bywyd a’r trydydd sector. Rydym yn croesawu cyflwyniadau gan yr holl feysydd hyn, fel y gallwn gyflwyno darlun cynhwysfawr o Wyddor Data Poblogaethau. Gan ein bod yn gyfnodolyn mynediad agored, mae ein galwad agored gyffredinol am lawysgrifau yn agored drwy’r amser i awduron gyflwyno gwaith unrhyw bryd.
Hefyd, rydym yn cyhoeddi galwadau ar gyfer Materion Penodol, lle mae aelodau’r bwrdd golygyddol yn dewis y pynciau ar y cyd, er mwyn adlewyrchu rhai o’r materion pwysicaf sy’n haeddu sylw arbennig. Yn 2020, mae ein Galwad Materion Penodol yn ymwneud â Chynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, pwnc sy’n hollbwysig i lwyddiant parhaus ymchwil ym maes Gwyddor Data Poblogaethau. Mae’r holl wybodaeth am ein Galwadau Agored am Faterion Penodol ar gael ar wefan yr IJPDS.
Oes heriau wrth reoli’r cyfnodolyn?
Mae ansawdd wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud, felly mae ein tîm o adolygwyr cymheiriaid rhyngwladol yn hanfodol wrth sicrhau ein bod yn cyflawni safonau uchel yn gyson o ran cyhoeddi llawysgrifau, drwy broses drylwyr o adolygiad sengl dall.
Ers 2017, mae’r IJPDS wedi derbyn ymateb aruthrol i’r galwadau am lawysgrifau cyffredinol ac ar faterion penodol. O ganlyniad, rydym yn wynebu’r her o gynyddu nifer ein hadolygwyr a’u meysydd arbenigedd.
Gall adolygu cymheiriaid fod yn brofiad gwobrwyol sy’n cynnig manteision niferus ac yn ffordd wych o ehangu eich gyrfa. Gall arbenigwyr sy’n adolygu’n rheolaidd gael eu cydnabod fel arbenigwyr blaenllaw yn eu maes, mae’n ychwanegiad gwerthfawr at eich CV pan fyddwch yn gwneud cais am swydd, ac mae’n ffordd o gynyddu eich gwybodaeth bersonol yn y maes. Gall adolygu gwaith eich cymheiriaid eich helpu i wella eich cyflwyniadau eich hun hefyd. Os oes gennych ddiddordeb mewn adolygu gwaith cymheiriaid ac ymuno â phanel rhyngwladol o arbenigwyr gwyddor data poblogaethau’r IJPDS, mae’n amser gwych i achub ar y cyfle i fod yn rhan o’n gwaith pan gyhoeddir yr alwad.
Y cyfan mae angen ei wneud yw anfon e-bost atom yn contact@ijpds.org gan gynnwys eich enw, eich sefydliad, eich arbenigedd a’ch manylion cyswllt.
Unrhyw sylwadau i gloi?
Mae’n bosib bod llawer o ymarferwyr proffesiynol nad oeddent yn ymwybodol o’r maes datblygol hwn o ymchwil wyddonol ac sydd eisoes, mewn gwirionedd, yn rhan o’r gymuned fyd-eang hon sy’n tyfu’n gyflym. Byddwn yn annog y bobl hyn i ystyried yr IJPDS y tro nesaf maent am gyhoeddi erthygl, a bod yn rhan o’n gwaith drwy gyfrannu eu gwybodaeth a’u profiad er budd datblygu Gwyddor Data Poblogaethau.
Dilynwch yr IJPDS ar Twitter @IJPDS.