

Mae adolygiad cyflym cynhwysfawr gan Wyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Lles Rhieni Sengl wedi cyhoeddi argymhellion i lywio cyd-greu mentrau iechyd meddwl effeithiol gyda phlant a phobl ifanc (CYP).
Roedd yr adolygiad yn archwilio llenyddiaeth, ymchwil a chanllawiau cyfredol am gyd-greu mentrau iechyd meddwl gyda phlant a phobl ifanc. Ei nod oedd hysbysu ymagweddau at gyd-greu mentrau sy’n seiliedig ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc 10 i 24 oed o aelwydydd ag un rhiant.
Mae cyd-greu, proses gydweithredol rhwng ymchwilwyr a chyfranogwyr, yn meithrin dysgu ar y cyd a pherchnogaeth a rennir o ddeilliannau prosiect. Mewn mentrau iechyd meddwl, mae cynnwys plant a phobl ifanc yn angenrheidiol yn sgîl eu gwybodaeth a’u profiadau. Mae ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn sicrhau bod mentrau’n berthnasol, yn adlewyrchu anghenion, ac yn hyrwyddo ymdeimlad o berchnogaeth ac awdurdod – sy’n arwain at ymyriadau sydd wedi’u teilwra i anghenion y plant a’r bobl ifanc.
Mae’r ymchwil hon yn cyd-fynd â nodau’r Maniffesto Iechyd Meddwl a arweinir gan Lles Rhieni Sengl, sy’n ceisio gwreiddio cyd-greu yn eu gwaith i gefnogi iechyd meddwl positif a deilliannau lles i blant a phobl ifanc. Mae’r maniffesto’n ceisio mynd i’r afael â’r heriau cynyddol mae plant a phobl ifanc mewn aelwydydd ag un rhiant yn eu hwynebu, sy’n cyfrannu at yr ymdrechion ehangach i wella deilliannau iechyd meddwl ar gyfer y demograffig hwn ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae themâu allweddol sy’n deillio o ganfyddiadau’r adolygiad yn cynnwys cynllunio, gweithredu, hwyluswyr ac adnoddau, cefnogi cyfranogiad, gweithio gyda’n gilydd, trafodaethau hygyrch, symboleiddiaeth, a gwerthuso parhaus. Mae’r adolygiad yn nodi’r themâu hyn fel cydrannau hollbwysig i’w ystyried wrth ddylunio a gweithredu prosiectau gyd-greu llwyddiannus gyda phlant a phobl ifanc.
Mae argymhellion yr adolygiad yn cynnwys:
Rhannu pŵer a gwybodaeth
Hybu cyfranogiad teg a phŵer cyfartal mewn prosiectau cydweithrediadol gan barchu profiadau proffesiynol a phersonol, cydnabod gwybodaeth y plant a’r bobl ifanc wrth ddewis ymagweddau effeithiol, a blaenoriaethu eu hawliau i wneud penderfyniadau yn hytrach na gofyn am eu barn yn unig.
Gweithio gyda’n gilydd mewn mannau diogel
Cael pawb yn rhan ohono o’r cychwyn, cynnal diddordeb y plant a’r bobl ifanc gyda chyfarfodydd rheolaidd, a phennu rheolau prosiect clir. Creu mannau diogel ar gyfer plant a phobl ifanc, gan ddefnyddio dulliau creadigol fel creu cymeriadau i siarad am bynciau anodd a darparu cymorth ac ôl-drafodaeth ar ôl pob sesiwn.
Cefnogi a thrafodaethau hygyrch
Sicrhau bod prosiectau cyd-greu’n gweithio’n dda trwy gael hwyluswyr profiadol, ac os oes angen, gyfryngwyr allanol. Rhoi digon o adnoddau i hwyluso, gweinyddu, a gwerthuso, a bod yn hyblyg gydag amserlenni gan gynnig cymysgedd o sesiynau a gweithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb. . Helpu pobl ifanc i gymryd rhan ystyrlon trwy ystyried eu galluoedd a defnyddio dulliau sy’n annog trafodaethau agored, sy’n addasu i’w hanghenion amrywiol.
Mae’r argymhellion hyn yn llywio ymarferwyr i weithredu prosesau cyd-greu effeithiol gyda phlant a phobl ifanc, sy’n pwysleisio cydraddoldeb, cyfranogiad cynnar, diogelwch, hwyluso medrus a gwerthuso parhaus.
Dywedodd awdur yr adolygiad Dr Michaela James, Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r argymhellion yn ein hadolygiad yn ceisio llywio cyd-greu effeithiol gyda phlant a phobl ifanc – gan hyrwyddo cydraddoldeb, cyfranogiad cynnar, diogelwch, cydweithio, a gwerthuso parhaus.
Nid allweddair yn unig yw cyd-greu; Mae’n broses angenrheidiol sy’n sicrhau cyfranogiad cyfartal, gwneud penderfyniadau ar y cyd, a chael deilliannau cadarnhaol i bawb.
Gall y dystiolaeth a gafwyd yn yr adolygiad helpu i greu a gweithredu mentrau iechyd meddwl a lles cymunedol – sy’n helpu i greu newidiadau cadarnhaol, perthnasol i fywydau plant a phobl ifanc.
Dywedodd awdur yr adolygiad Hannah Stacey, Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru fod:
“Yr adolygiad hwn wedi amlygu nifer o ystyriaethau ar gyfer y rhai hynny sy’n bwriadu defnyddio ymagwedd gyd-greu yn eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Mae gan gyd-greu llwyddiannus lu o fanteision, o lunio gwasanaethau pwrpasol, sydd wedi’u harwain gan ieuenctid i ddatblygu sgiliau plant a phobl ifanc trwy gymryd rhan yn y broses gyd-greu. Oherwydd ei botensial, mae’n bwysig ein bod yn cael cyd-greu’n gywir.
Rydym yn gobeithio bydd yr adolygiad hwn yn cynnig ystyriaethau allweddol i sefydliadau sy’n cefnogi ac yn llywio dyluniad a gweithrediad prosiectau cyd-greu pwrpasol gyda phlant a phobl ifanc.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Michaela James m.l.james@swansea.ac.uk.
Darllenwch yr adolygiad llawn yma.
