

Yr wythnos hon rydym wedi croesawu ein myfyrwyr o’r DU ac o wledydd mor bell â Chanada, Tsieina, Groeg, India, Iwerddon, Jamaica, Teyrnas Sawdi-Arabia, Singapôr, De Swdan a Sambia i’n cyrsiau MSc mewn Gwybodeg Iechyd ac MSc mewn Gwyddor Data Iechyd.
Ysgoloriaethau Chevening yw rhaglen ysgoloriaethau byd-eang Llywodraeth y DU, a ariennir gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a sefydliadau partner. Dewisir derbynwyr yn bersonol gan Lysgenadaethau ac Uchel Gomisiynau Prydain ledled y byd â’r nod o feithrin arweinwyr byd-eang.
Eleni, mae ein cwrs MSc mewn Gwybodeg Iechyd yn cynnwys nifer uwch nag erioed o ddeiliaid Ysgoloriaeth Chevening o Jamaica, De Swdan a Sambia.
Mae ysgoloriaethau Chevening yn galluogi darpar arweinwyr o bob cwr o’r byd i astudio ar raglenni gradd meistr blwyddyn o hyd yn y DU ac mae’r broses ddethol yn gystadleuol iawn. Dewisir ymgeiswyr ar sail llwyddiant academaidd blaenorol a’u potensial i ddod yn arweinwyr.
Hefyd, mae’n rhaid iddynt ddangos eu bod wedi cyflawni rolau blaenllaw yn eu gwledydd brodorol. Mae’r cyfle unigryw hwn yn cefnogi unigolion eithriadol i astudio mewn prifysgol yn y DU ac mae llawer o’r rhain yn dychwelyd adref i alluogi newid a thrawsnewid cymunedau.
Mae Abrahim Simmonds yn ddeiliad Ysgoloriaeth Chevening (ac yn enillydd Gwobr Arweinydd Ifanc y Frenhines ar gyfer Jamaica yn 2017) sy’n astudio am MSc mewn Gwybodeg Iechyd. Meddai:
“Dyma gyfle sy’n dod unwaith mewn bywyd, ac roeddwn i’n sicr fy mod i am astudio’r MSc mewn Gwybodeg Iechyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe; felly Gwybodeg Iechyd oedd fy newis cyntaf o bwnc pan gyflwynais gais am Ysgoloriaeth Chevening.
“Roeddwn i’n Swyddog Technegol ar gyfer y prosiect LINKAGES yn Jamaica. Fy ngwaith oedd cefnogi wrth weithredu gweithgareddau TGCh a helpodd i estyn cyrhaeddiad gwasanaethau i boblogaethau sy’n byw gyda HIV, yn Jamaica yn bennaf, gan ddarparu cymorth technegol i Swrinam, Barbados a Thrinidad a Thobago
“Bydd astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn fy helpu i wella fy ngwybodaeth a’m sgiliau fel ymarferydd gwybodeg iechyd, oherwydd bod y cwrs yn cael ei addysgu yn y grŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a sefydlodd Fanc Data byd-enwog SAIL.”

Meddai’r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Mae’r Ysgol Feddygaeth yn arweinydd byd-eang ym maes gwyddor data poblogaethau, felly mae’n bleser mawr gennym groesawu myfyrwyr o bob cwr o’r byd i’n cyrsiau MSc mewn gwybodeg a gwyddor data iechyd.”
Meddai Tony Paget, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr y cyrsiau MSc mewn Gwybodeg Iechyd ac MSc mewn Gwyddor Data Iechyd:
“Mae’n bleser mawr gennym fod llawer o fyfyrwyr rhyngwladol wedi dewis astudio ar ein cyrsiau MSc mewn Gwybodeg Iechyd a Gwyddor Data Iechyd, gan ddarparu profiad mwy cyfoethog ac amrywiol i’n myfyrwyr o’r DU a’n myfyrwyr rhyngwladol eraill.”
Meddai’r Athro David Ford, Athro Gwybodeg a Chyd-gyfarwyddwr y Grŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Rydym yn falch o groesawu ein hysgolheigion Chevening sy’n astudio ar ein cwrs MSc mewn Gwybodeg Iechyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe – rhywbeth sydd, yn ein barn ni, yn dyst, nid yn unig i ansawdd uchel ein cyrsiau meistr, ond hefyd i’n hymrwymiad i ymgorffori dimensiwn rhyngwladol yn ein holl weithgareddau addysgu.”
Ewch i’n tudalen MSc mewn Gwybodeg Iechyd i gael rhagor o wybodaeth am y cwrs.