

Mae astudiaeth newydd dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu mai dim ond 1 o bob 3 menyw feichiog yng Nghymru a gafodd frechlyn COVID-19 yn ystod beichiogrwydd, er i 2 o bob 3 ddweud y byddent yn cael y brechiad.
Mae petruster brechu (“vaccine hesitancy”) yn ystyriaeth bwysig ymhlith poblogaethau sy’n agored i niwed, megis menywod beichiog yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Nod yr astudiaeth dan arweiniad tîm Ganwyd yng Nghymru yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth mewn cydweithrediad ag Ysgol Feddygaeth Bryste ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, oedd:
- Amcangyfrif cyfraddau brechu COVID-19 ymhlith menywod beichiog yng Nghymru a’u cysylltiad ag oedran, ethnigrwydd ac ardal o amddifadedd, gan ddefnyddio cofnodion iechyd electronig.
- Archwilio barn menywod beichiog ar dderbyn brechlyn COVID-19 yn ystod beichiogrwydd gan ddefnyddio data o arolwg sy’n recriwtio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, bydwragedd, a phosteri mewn ysbytai.
Cysylltu’r data
Nododd yr astudiaeth fenywod a oedd yn byw yng Nghymru y cofnodwyd eu bod yn feichiog ar 13 Ebrill 2021 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn gymwys i gael brechiad COVID-19. Defnyddiodd y tîm gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) i ddwyn ynghyd ac archwilio data meddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty, y gronfa ddata genedlaethol ar iechyd plant cymunedol, dangosyddion mamau, a data brechu COVID-19 yng Nghymru. Ystorfa ddata ddienw yw cronfa ddata SAIL sy’n hwyluso cysylltiadau data. Mae cysylltiadau data yn caniatáu i ymchwilwyr ddwyn ynghyd wybodaeth o wahanol adnoddau i greu dealltwriaeth ddyfnach ac ansawdd gwybodaeth i’w defnyddio yn eu gwaith ymchwil.
Arolwg ar-lein
Gwahoddwyd trawstoriad o fenywod beichiog yng Nghymru, ar wahân, i gwblhau arolwg ar-lein. Gofynnodd yr arolwg beth oedd eu barn am gael brechiad COVID-19 yn ystod beichiogrwydd, ac a oeddent eisoes wedi cael, neu’n bwriadu cael, brechiad COVID-19 yn ystod eu beichiogrwydd. Gofynnwyd iddynt hefyd roi rhesymau dros eu penderfyniadau.
Prif ganfyddiadau’r data
- Cafodd 32.7% o fenywod eu brechu (o leiaf un dos o’r brechlyn) yn ystod beichiogrwydd.
- Parhaodd 34.1% i fod wedi’u brechu gydol y cyfnod dilynol.
- Cafodd 33.2% y brechlyn ar ôl geni’r babi.
- Roedd menywod iau (<30 oed) a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yn llai tebygol o gael y brechlyn.
- Roedd grwpiau ethnig Asiaidd a grwpiau ethnig eraill, yn y drefn honno, ychydig yn fwy tebygol o gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd o’i gymharu â’r grŵp Gwyn.
Prif ganfyddiadau’r arolwg o fenywod beichiog
- Dywedodd 69% y byddent yn hapus i gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd.
- Nododd 31% na fyddent yn cael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd.
- Roedd y rhesymau dros gael y brechlyn yn ymwneud ag amddiffyn eu hunain a’u baban, lefel risg dybiedig, a chael digon o dystiolaeth a chyngor.
- Roedd y rhesymau dros wrthod y brechlyn yn cynnwys diffyg ymchwil am ganlyniadau hirdymor i’r baban, pryder am frechlynnau, cyngor/gwybodaeth anghyson, a’r dewis i aros tan ar ôl y beichiogrwydd.
Dywedodd Mohamed Mhereeg, Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth, a’r awdur arweiniol: “Mae brechiadau’n amddiffyn rhag clefydau difrifol. Wrth i’r pandemig barhau, mae brechiadau atgyfnerthu yn gynyddol bwysig i ddiogelu rhag COVID-19 difrifol, yn enwedig mewn poblogaethau sy’n agored i niwed fel menywod beichiog.
I gloi, mae’n hanfodol datblygu strategaethau pwrpasol i gynyddu cyfraddau derbyn brechlyn COVID-19 a lleihau petruster. Efallai y bydd angen rhoi sylw i ddull mwy pwrpasol ar gyfer brechu er mwyn cyrraedd grwpiau penodol fel pobl iau, lleiafrifoedd du ac ethnig cymysg, a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae annog poblogaethau sy’n agored i niwed, gan gynnwys menywod beichiog, yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. “
Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ariannwyd y gwaith ymchwil hwn gan yr Astudiaethau Craidd Cenedlaethol, sef menter a ariannwyd gan UKRI, NIHR a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac fe’i cefnogwyd gan HDR UK.