

Mae data newydd yn dangos bod pobl â sglerosis ymledol (MS) yng Nghymru wedi cael y ddau frechlyn yn gynt na gweddill y boblogaeth.
Clefyd niwrolegol cronig yw MS ac mae’n effeithio ar oddeutu 5,600 o bobl yng Nghymru, 130,000 yn y DU.
Bu ymchwilwyr o Gofrestr MS y DU, yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn edrych ar ddata a gedwir ym Manc Data SAIL a chanfod bod cyfraddau brechu’n uwch gyda phobl ag MS o’u cymharu â chyfraddau’r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru.
Meddai Lynne Hughes Cyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru,
“Roedd pobl sy’n byw gydag MS ar y rhestr agored i niwed ar gyfer brechlynnau sy’n golygu y dylent fod wedi cael cynnig y brechlyn fel mater o flaenoriaeth. Yn ôl ym mis Ionawr serch hynny, cyhoeddodd Cofrestr MS y DU bryderon dros ddryswch brechu, gan fod 3 o bob 4 person sy’n byw gydag MS yn dweud bod angen cyngor arnynt.*
“Mae canfyddiadau Banc Data SAIL yn galonogol ac yn dangos pa mor effeithiol y mae GIG Cymru wedi bod gyda’r Rhaglen Frechu.
“Mae’r canfyddiadau hefyd yn dyst i waith caled ein clinigwyr MS er mwyn annog eu cleifion i gael y brechlyn ac osgoi unrhyw bryderon sydd ganddynt.
“Yn ychwanegol at gysylltu â chleifion yn unigol gyda gwybodaeth gadarn, mae ymgynghorwyr o Fyrddau Iechyd Bae Abertawe, Caerdydd a’r Fro ac Aneurin Bevan wedi siarad yng ngweminarau ar-lein y Gymdeithas MS o ran y brechlynnau ac MS. Mae wedi bod yn ymdrech tîm llwyr ac mae hynny wedi gwneud byd o wahaniaeth.”
Cafodd Sharon Hier o Bontarddulais ddiagnosis o Sglerosis Ymledol Atglafychol Ysbeidiol yn 2014, ac meddai,
“I ddechrau, roeddwn i yn erbyn cael y brechlyn ond cefais lythyr gan yr ymgynghorwyr yn Ysbyty Treforys ac roedd yn gynhwysfawr iawn. Roedd hyn yn ateb pob cwestiwn a oedd gennyf a mwy. Rhoddodd yr hyder i mi fynd rhagddo a chael y brechlyn.”
Meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
“Mae’n wych gweld cymaint o bobl yn cael y brechlyn wrth i ni gydweithio i gadw Cymru’n ddiogel ac atal yr haint rhag ymledu.Mae rhaglen frechu Cymru ymysg y gorau yn y byd ac rydym yn ymrwymedig i ddileu rhwystrau i sicrhau nad yw neb yn cael ei adael ar ôl. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Cymry sydd wedi derbyn eu brechlyn a holl staff y GIG sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pawb mewn grŵp blaenoriaeth yn derbyn y ddau ddos mor gyflym a diogel â phosib.