

Rhoddodd Dirprwy Gyfarwyddwr NCPHWR a Chyfarwyddwr SHRN, yr Athro Simon Murphy, gyflwyniad yn y Senedd ar 19eg Ebrill ar y pwnc Gweithgarwch Corfforol ymhlith Plant a Phobl Ifanc.
Nododd Simon, “Mewn perthynas â chanllawiau’r Prif Swyddog Meddygol, nid yw’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn bodloni’r lefelau a argymhellir o weithgarwch corfforol bob dydd. Gall hyn gael effeithiau niweidiol sylweddol ar eu hiechyd a’u lles yn ogystal â ffactorau risg trwy gydol eu bywydau. Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio dull wedi’i seilio ar dystiolaeth i nodi polisïau cenedlaethol i fynd i’r afael â’r broblem hon yn y dyfodol. Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn clywed am y gwaith arloesol yr ydym wedi bod yn ei wneud gyda SHRN wrth nodi beth y mae ysgolion yn ei wneud i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac astudiaeth beilot ar ddefnyddio modelau rôl i ferched i lywio strategaethau yn y dyfodol.”
Fel canolfan mae NCPHWR yn anelu at ymgysylltu â llunwyr polisi, ar lefel llywodraeth genedlaethol a lleol i ddarparu ymchwil wedi’i seilio ar dystiolaeth i’w galluogi i wella’u polisïau, eu gwasanaethau a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Gwyliwch Simon yn cyflwyno i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.