

Bydd y rhaglen Astudiaethau Craidd Cenedlaethol, a arweinir gan Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK), mewn partneriaeth â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ysgogi ymdrechion ymchwil newydd, cynhwysfawr a chydweithredol i Covid-19. Mae’r rhaglen yn cynnwys chwe llinyn astudio; haint a gwyliadwraeth, treilaon, ymlediad a’r amgylchedd, imiwnedd, iechyd hydredol a data a chysylltedd.
Bydd Banc Data SAIL a Phlatfform e-Ymchwil Ddiogel (SeRP) – yr isadeiledd technolegol sy’n ategu SAIL – yn gydrannau allweddol wrth gyflwyno’r ffrwd Data a Chysylltedd. Gan weithio gydag Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy (TREs), mae’r astudiaeth hon yn cysylltu y pum ffrwd arall ar draws y DU ac yn cyflymu’r ymagwedd at ateb cwestiynau ymchwil allweddol drwy alluogi mynediad at ddata sydd wedi’i symleiddio a’i ddadansoddi.
Bydd yr Astudiaethau Craidd Cenedlaethol yn archwilio lefelau haint y boblogaeth gyffredinol ac mewn lleoedd penodol megis ysgolion neu gartrefi nyrsio, effaith amgylcheddau gwahanol ar ymlediad Covid-19, a bellach sut mae’r system imiwnedd yn cynnig amddiffyniad rhag yr haint. Y nod yw adeiladu ar y cyfoeth o arbenigedd sy’n bodoli mewn ymchwil iechyd ar draws y DU.
Dyma gynnig cyffrous iawn ar raddfa fawr sy’n dod ag ymdrechion ymchwil o’r radd flaenaf ynghyd er mwyn astudio pob agwedd ar effeithiau’r Coronafeirws. Mae’r gwaith a wnaed gan SAIL a SeRP wedi bwydo i Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru fel rhan o’i ymateb i strategaeth Covid. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda HDR UK, y GIG, y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac eraill, i gefnogi’r fenter hon gan Lywodraeth y DU.
Yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr SAIL a SeRP
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Astudiaethau Craidd Cenedlaethol, gan gynnwys sut i gymryd rhan ar wefan HDR UK yma //://www.hdruk.ac.uk/news/134850/

