

Mae Panel Achredu Ymchwil Awdurdod Ystadegau’r DU wedi cymeradwyo Banc Data SAIL a SeRP UK fel ‘Prosesyddion Achrededig’ yn unol â thelerau Deddf yr Economi Ddigidol 2017 a Chôd Ymarfer Ymchwil a Meini Prawf Achredu statudol Llywodraeth y DU.
Mae’r gymeradwyaeth bwysig hon gan yr Ystadegydd Gwladol a Bwrdd Awdurdod Ystadegau’r DU yn golygu bod Banc Data SAIL a SeRP UK yn cael eu cydnabod fel prosesyddion y gellir ymddiried ynddynt at ddibenion darparu, storio, paru, cysylltu data a’i wneud yn ddienw. Nod y llinyn hwn o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (rhan 5) yw ‘darparu mynediad gwell at ddata dienw o’r sector cyhoeddus i ymchwilwyr achrededig er mwyn cefnogi prosiectau ymchwil er budd y cyhoedd’.
Sefydlwyd Banc Data SAIL yn wreiddiol i storio data iechyd, ond mae wedi ehangu ei gylch gorchwyl i gynnwys data gweinyddol er mwyn creu cyfleoedd gwell byth i greu carfannau hydredol cyfoethog ar gyfer ymchwil. Gan gynnwys biliynau o gofnodion ar sail unigolion, Banc Data SAIL yw’r gronfa ddata orau yn y byd ar sail nodweddion poblogaeth. Adnodd ymchwil hynod werthfawr sy’n cynnwys amrywiaeth enfawr o ddata a metaddata o safon uchel sy’n parhau i dyfu.
Mae Secure e-Research Platform (SeRP) UK yn defnyddio technegau cyfrifiadura perfformiad uchel sy’n caniatáu i ymchwilwyr gael mynediad at setiau lluosog o ddata cymhleth a’u rheoli a’u dadansoddi mewn modd diogel. Mae gan SeRP UK y dechnoleg a’r gallu i weithio gyda mathau newydd o ddata a rhai sy’n datblygu, megis data testun rhydd, delweddu, genetig a daearyddol, a gall hwyluso prosiectau sy’n cynnwys deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a phrosesu iaith naturiol.
Mae Banc Data SAIL a SeRP UK yn cydweithio mewn ‘canolfan ragoriaeth’ yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gan helpu i sicrhau bod Cymru’n arwain y byd ym maes Gwyddor Data Poblogaethau.
Bydd achrediad o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017, ynghyd ag ardystiad ISO27001, yn golygu bod Banc Data SAIL a SeRP UK yn dangos y protocolau llywodraethu mwyaf cadarn sy’n darparu tawelwch meddwl i lunwyr polisi, ymchwilwyr a’r cyhoedd. Mae’n arwydd o ymrwymiad i’r safonau uchaf a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn ogystal ag ymrwymiad i welliant parhaus ei systemau a rheolaethau cysylltiedig, drwy broses adolygu flynyddol.
Cronfa Ddata SAIL yw un o’n canolfannau rhagoriaeth ymchwil yn uned Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.